Dystopia llawn ffraethineb
Axel Jensen
Epp
Hanes Epp a gawn gan Axel Jensen yn y nofel hon - pensiynwr sy’n byw ar blaned ddi-enw mewn bloc o fflatiau a amgylchynir gan ganoedd o flociau eraill…
Heddiw, cefais fy neffro gan sŵn modur; oedd mi oedd yna ryw rygnu modur tu allan i fy ffenest a churo ysgafn i’w glywed, fel petai rhywun yn taro’r gwydr â blaenau eu bysedd. Roedd rhaid agor er gwaetha’r tywydd diflas. Wrth lwc, doedd hi ddim yn wyntog. Mae’n gas gen i ddrafft.
Epp oedd…
Darllenwch y darn i gyd CauMyfyrdod ar natur cariad, colled a henaint
Vergílio Ferreira
Yn Enw'r Ddaear
Dyma un o weithiau olaf a mwyaf grymus Ferreira. Cyhoeddwyd y nofel yn 1991. Archwilia’r adroddwr ynddi natur cariad, colled a henaint ar ffurf llythyr…
IV
Ac fe aethom. Finnau tu ôl, yn ddigyswllt fy nghorff ar fy ffyn baglau, Antoinette ar y blaen, tywelion a dillad ar ei braich. Dynes lydan oedd Antoinette, ei dwy ystlys wedi rhoi o achos y pwysau, mae’n siwr, a fu ar ei hil ers cenhedlaethau. Aeth a’n gadael ers rhai dyddiau a hynny wedi…
Darllenwch y darn i gyd CauY Byd yn ôl Morgrug Gwynion
Stefan Themerson
Darlith Yr Athro Mmaa
Cyfieithiad Stefan Themerson
“Argymhellaf y llyfr hwn i’r darllenydd oherwydd mae’n lyfr o bwys, yn drawiadol ac yn llawn hiwmor llym. Nid wyf yn addo y bydd y darllenydd yn…
Lle y Dechreua’r Athro Mmaa ar ei Ddarlith
“Rwyf wedi ymwrthod yn gyson â’r demtasiwn…” – meddai’r Athro Mmaa; ac wrth iddo siarad gwawriodd arno’n sydyn mai syml oedd y byd, nid cymhleth.
“Y mae wedi fy nharo’n sydyn mai syml, nid cymhleth yw’r byd,” aeth yn ei flaen.…
Darllenwch y darn i gyd CauStraeon o Ben Draw'r Byd
Álvaro Cunqueiro
Merlin a'i Debyg
Cyfieithiad Colin Smith
Ymhell ar ôl brwydr olaf Arthur, mae Merlin a Guinevere yn goroesi. Maent yn ymddeol i’w cartref yn Miranda, yn nhalaith Galicia – er prin mai ymddeoliad…
Chapter 12
The Greek Mermaid
I didn’t wake up until it was gone twelve, and breakfast was already on the table: I always loved that sweet pumpkin soup that mistress Marcelina made in autumn, so much so that I generally had a second helping. I stayed on an hour in the kitchen telling them the…
Darllenwch y darn i gyd CauLlythyrau o'r Rhyfel Mawr
Stratis Myrivilis
Bywyd yn y Bedd
Cyfieithiad Peter Bien
Mae campwaith Stratis Myrivilis, ‘Bywyd yn y Bedd’, yn cyflwyno profiad personol o’r rhyfel gyda manylder, parch, a rhwystredigaeth - hynny mewn…
Pennod 2: Diwedd sy’n ddechrau
Diolch i Dduw, rydym wedi dod i stop. Wedi cyrraedd y ffos. Diwedd a dechrau ydi ystyr hynny: diwedd y martsio truenus, di-ben-draw, a dechrau ar fywyd y ffosydd - profiad cwbl newydd. Mi fu dyddiau lle bûm yn holi fy hun, “Dduw graslon, a ddaw’r cerdded…
Darllenwch y darn i gyd CauCawsant eu cyfrif
Miklós Bánffy
Trioleg Transylfania
Cyfieithiad Patrick Thursfield and Katalin Bánffy-Jelen
Portread o Hwngari cyn y Rhyfel Byd Cyntaf a gawn yn y gyfrol gyntaf hon o’r drioleg gan Bánffy, sef Cawsant eu cyfrif. Cyfleir hynny trwy lygaid dau…
Pennod Un, Rhan Un
Yr oedd yr haul y prynhawn hwn ar ddechrau mis Medi yn tywynnu mor gryf nes ei bod yn teimlo fel haf. Hedfanai dau ehedydd yn uchel yn yr awyr, gan oedi am eiliad neu ddau cyn plymio a llithro dros wyneb y caeau cyn codi drachefn yn uwch fyth i’r awyr las.
Ar y ddaear…
Darllenwch y darn i gyd Cau