schwob_logo

schwob

marcel
The World's Best Unknown Books
14 08 2013

Cawsant eu cyfrif

Trioleg Transylfania Miklós Bánffy

Cyfieithiad Patrick Thursfield and Katalin Bánffy-Jelen

Portread o Hwngari cyn y Rhyfel Byd Cyntaf a gawn yn y gyfrol gyntaf hon o’r drioleg gan Bánffy, sef Cawsant eu cyfrif. Cyfleir hynny trwy lygaid dau gefnder ifanc: yr Iarll Balint Abady a’r Iarll László Gyeroffy.

Mae nerth brwdfrydedd Bánffy yn gadael effaith tebyg i Trollope ar ei orau - ond daw hynny o fyd sydd wedi hen fynd ac sydd bellach yn ymddangos yn gyffrous o wahanol.

TLS

Hela ar dir tai’r boneddigion, golygfeydd cythryblus yn y senedd a byw bywyd bras yn Budapest: dyna’r cefndir i’r nofel afaelgar hon sy’n rhagweld datblygiadau ar gyfandir Ewrop. Mae’n feirniadaeth lem ar wamalrwydd y dosbarth breintiedig ac ynfydrwydd gwleidyddol, lle mae moesgarwch yn cuddio difaterwch a chreulondeb. Daw Abady yn ymwybodol o gyflwr criw o werinwyr Rwmanaidd o’r mynyddoedd, gan ddadlau dros eu hachos, tra mae Gyeroffy yn ofera ei adnoddau wrth fyrddau hapchwarae, gan estyn drych i ddirywiad yr ymerodraeth Awstro-Hwngaraidd.

Mae’r ail gyfrol yn adrodd hanes dau gefnder o Dransylfania, eu carwriaethau a’u ffawd. Adlewyrchu y newidiadau sy’n dryllio Canol Ewrop y mae’r drydedd a’r olaf.

Mae trioleg Bánffy yn cyferbynnu bywydau breintiedig a llygredigaeth gyda ffordd o fyw y gwerinwyr sy’n lleiafrif ac yn fewnfudwyr o Rwmania. Mae’n ddarlun heb ei ail o fyd aristocrataidd sy’n cau llygaid ar ddyfodol o ddinistr.

Cyhoeddwr
Arcadia Books
Cyhoeddwyd
2012
Genre
Ffuglen
Yr iaith wreiddiol
Hwngareg
Y gwreiddiol
Megszámláltattá (1934)
Cyfieithiadau blaenorol i'r ieithoedd canlynol
Saesneg (Prydain, UDA), Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Is-Almaeneg, Eidaleg, Tsinëg.
Adolygiadau
The Guardian

Ar gael ar ffurf
Clawr papur
ISBN 978-90-450-0745-8
624 tudalen
£ 7,19
Prynu