Miklós Bánffy
Hwngari
Gwleidydd ac awdur Hwngaraidd oedd Miklós Bánffy (1873-1950) Mae ei drioleg Megszámláltattál yn un o ailddarganfyddiadau mwyaf yr ugain mlynedd diwethaf.
Bu Miklós Bánffy yn llysgennad, yn aelod seneddol ac yn weinidog materion tramor. Ef wnaeth lofnodi y cytundeb heddwch yn 1921/22 gyda’r Unol Daleithiau gan sicrhau mynediad Hwngari i Gynghrair y Cenhedloedd. Bu’n gyfrifol am drefnu coroni olaf yr Habsbwrgiaid, sef coroni y Brenin Karl yn 1916. Cyhoeddwyd ei waith adnabyddus Trioleg Transylfania ym Mudapest yn nhridegau’r ugeinfed ganrif.