schwob_logo

schwob

marcel
The World's Best Unknown Books

Schwob

Atgyfodi clasuron modern gorau'r byd

Prosiect uchelgeisiol i ddarganfod a hyrwyddo gwybodaeth o lygad y ffynnon am lenyddiaeth fodern Ewrop yw Schwob. Cyflwynir clasuron modern, llyfrau cwlt, yn syml iawn, llyfrau y dylid eu darllen doed a ddelo.

Cefnogir y dasg gan rwydwaith eang o gyfieithwyr, tai cyhoeddi, gwyliau a sefydliadau llenyddiaeth. Y rhain sy’n awgrymu cyfrolau ac yn cyfrannu cyfieithiadau sampl, gan eu cyflwyno ar y wefan gydag erthyglau cefndir a chynnig i brynu’r llyfr.

Hyrwyddir y llyfrau hyn gan Schwob i gyhoeddwyr sy’n debyg o fod â diddordeb mewn prynu hawliau cyfieithu, gan gynnig gwybodaeth iddynt am gefnogaeth ariannol. Rydym hefyd yn dod â’r cyfieithiadau hynny sydd wedi eu cyhoeddi i sylw darllenwyr, gan gydweithio gyda chyhoeddwyr, cylchgronau, siopau llyfrau a llyfrgelloedd. Mewn gwyliau llenyddol yn Marseille, Barcelona, Krakow ac Amsterdam, er enghraifft, bydd awduron Ewropeaidd yn trafod eu hoff gyfrolau Schwob.

Bydd y cyfrolau hyn yn rhoi syniad i chi o safon ac amrywiaeth llenyddiaeth Ewrop yr 20fed ganrif. Byddant yn eich galluogi i greu cysylltiadau newydd rhwng llenyddiaeth, hanes y rhanbarthau a’r datblygiad yn y dychymyg modern mewn gwahanol rannau o Ewrop yn ystod y can mlynedd diwethaf. O Galicia i fynyddoedd Transylfania, o balasau aristocrataidd i faestrefi’r dinasoedd a maesydd y gâd yn yr amrywiol ryfeloedd, maent yn agor ar sbectrwm o ymwneud dynol gyda’r newidiadau anferthol mae’r ugeinfed ganrif wedi delio â hwy - newidiadau sydd wedi esgor ar sefyllfaoedd yr ydym yn byw ynddynt heddiw.

Mae Schwob yn ffrwyth cydweithio rhwng sefydliadau llenyddiaeth yn Y Ffindir, Yr Iseldiroedd, Gwlad Belg (Fflemeg), Gwlad Pwyl, Cymru a Chatalwnia, yn ogystal â Chymdeithas Awduron Ewrop (Finnegan’s List). Mae’r prosiect wedi ei gefnogi gan yr Undeb Ewropeaidd. Gellir ymweld â’r wefan hon mewn Is-Almaeneg, Saesneg, Catalaneg, Pwyleg, Cymraeg, a chyn bo hir mewn Ffineg.

Rhestr Finnegan: bob blwyddyn mae pwyllgor o ddeg o awduron adnabyddus Ewrop yn creu rhestr o 30 o deitlau y maent yn eu cynnig ar gyfer eu cyfieithu’n ehangach. Fel rhan o Schwob mae Finnegan’s List yn trefnu digwyddiadau rheolaidd lle gellir cyfarfod yr awduron hyn a chlywed am y llyfrau a argymhellir ganddynt. Mae’r digwyddiadau a’r rhestrau yn cael eu cyhoeddi yn adran newyddion y wefan hon.

Mae Schwob yn gweithio gyda chefnogaeth yr Undeb Ewropeaidd a’r partneriaid:

    Dutch Foundation for Literature
    Institute Ramon Llull
    Finnish Literature Exchange
    Société européenne des auteurs / Finnegan’s List
    Polish Book Institute
    Cyfnewidfa Lên Cymru
    Flemish Foundation for Literature.

Newyddion Schwob

Tanysgrifio i'r cylchlythyr

Yr holl gylchlythyron