schwob_logo

schwob

 
Yn ôl at y llyfr

Darn

Trioleg Transylfania

Miklós Bánffy

Pennod Un, Rhan Un

Yr oedd yr haul y prynhawn hwn ar ddechrau mis Medi yn tywynnu mor gryf nes ei bod yn teimlo fel haf. Hedfanai dau ehedydd yn uchel yn yr awyr, gan oedi am eiliad neu ddau cyn plymio a llithro dros wyneb y caeau cyn codi drachefn yn uwch fyth i’r awyr las.

Ar y ddaear ymddangosai popeth yn wyrdd. Hyd yn oed yn y caeau a oedd wedi eu gorchuddio â gweddillion cras y cynhaeaf ŷd, yr oedd yr aur yn wythiennau o fwsog, yn disgleirio megis enamel gwyrdd, gydag ambell babi coch hwyr yn disgleirio’n rhuddgoch yma ac acw. Ar fryniau mwyn cwm Maros yr oedd y coed ffrwythau yn dal wedi eu gorchuddio â dail, yn yr un modd â’r coed ar eu copaon. Rhwng y llifddolydd a redai ar hyd ymyl yr afon a’r perllannau, yr oedd y ffordd i Vasarhely yn wyn gan lwch - llwch a oedd hefyd yn gorchuddio’r blodau gwlydd melyn mair a flodeuai’n hwyr yn y tymor, y spigoglys gwyllt, a dail y cacamwci a dyfai yn doreithiog ar lethrau ochr y ffordd.

Teithiodd nifer o goetsys a chertiau’r werin y ffordd honno yn y bore, oll yn brysio i rasys y Sul yn Vasarhely, gan gorddi cymylau o lwch o’u holau. Bellach ar ddechrau’r prynhawn yr oedd popeth yn dawel. Yr oedd y llwch wedi setlo a’r ffordd yn wag.

Daeth cerbyd o gyfeiriad y dref yn araf bach. Ffiacr agored wedi ei llogi ydoedd ac yn cael ei thynnu gan dri cheffyl. Yn eistedd yn ôl yn sêt y cyd-deithiwr yr oedd gŵr ifanc, Balint Abady, yn fain ac o daldra cymhedrol, ei gôt ddwster hir sidan wedi ei chau at ei ên. Pan dynnodd ei het ffelt, gantel lydan - math a oedd wedi dod yn ffasiynol trwy gydol Ewrop yn dilyn rhyfel y Boer - daliodd yr haul gochni ei wallt tonnog gan wneud ei lygaid glas hyd yn oed yn oleuach. Yr oedd yna ryw siâp dwyreiniol i’w nodweddion, ei dalcen yn uchel, esgyrn y bochau yn llydan a rhwy slant annisgwyl i’w lygaid. Nid oedd Balint wedi bod i’r rasys. Daeth yn syth o’r orsaf ar ei ffordd i Var-Siklod, sef tŷ yn y wlad a berthynai i’r Iarll Laczok a oedd yn rhoi derbyniad ar ôl y rasys, ac a fyddai’n cael ei ddilyn yn hwyrach gyda’r nos gan swper a dawns.

Teithiodd gyda’r trên yn uniongyrchol o Denestornya er bod ei fam wedi cynnig iddo un o’i thimau o geffylau coets. Yr oedd wedi gwrthod y cynnig, a wnaethpwyd yn gynnes, oherwydd synhwyrai mai dyna’r oedd yn ei obeithio. Gwyddai cymaint oedd ei meddwl o’r ceffylau a fagodd a sut y byddai’n poeni am unrhyw galedi a allai ddod i’w rhan. Mewn stablau dieithr gallasent ddal annwyd neu gael eu poeni gan geffylau eraill. Felly, gyda gwên, dywedodd y byddai’n ormod iddynt yrru y pumdeg cilomedr o Denestronya i Ddolydd San Siôr tu hwnt i Vasarhely, yn ôl i’r dref eto ac yna allan at y Laczokiaid. Byddai rhaid torri’r daith i dendio arnynt, eu bwydo…., na, byddai’n well ganddo fynd gyda’r trên. Yn y modd hwnnw, byddai’n cyrraedd yn gynnar ac efallai’n cael cyfle i drafod materion lleol gyda’r gwleidyddion a fyddai’n siwr o fod yno.

‘Iawn, fy mab, os mai dyna sydd orau gen ti - er fe wyddost y rhown y ceffylau â phleser, meddai ei fam; ond gwyddai ei bod yn falch nad oedd wedi derbyn y cynnig. Felly yr oedd bellach ar ei ffordd i Siklod, yn teithio’n araf yn yr hen ffiacr, gyda’r harnes oedd yn jinglian, a’r sbringiau hynafol. Mwyhnheuai rythm araf y daith ar hyd y ffordd unig gyda’r llwch yn codi fel y fêl deneuaf, i’w chario gan awel dyner dros y ddôl lle’r oedd gwartheg â llygaid mawr diniwed yn edrych yn ddiog tuag at y cerbyd.

Peth braf oedd bod yn ôl yn ei wlad ei hun, ar ôl cymaint o flynyddoedd i ffwrdd, i fod yn ôl adref ac i gael ei gario’n heddychlon ac yn dyner i fan a garai, lle y gallai gyfarfod â chymaint o hen ffrindiau. Yr oedd amser maith wedi mynd heibio ers iddo eu gweld; oherwydd ar ôl y blynyddoedd a dreuliodd yn y Theresianum yn Fienna, ac wedi hynny ym Mhrifysgol Kolozsvar, bu rhaid iddo ddychwelyd i Fienna i baratoi at ei arholiadau ar gyfer y gwasanaeth tramor, ac yna, ar ôl ei wasanaeth milwrol, cafodd ei yrru i weithio dramor am ddwy flynedd. Bellach yr oedd yn ôl. Cymaint brafiach yr oedd hyn, meddyliodd, na’r gwasanaeth tramor lle nad oedd gobaith ennill arian a lle roedd y swm bychan y gallai ei fam ei fforddio prin yn ddigon i dalu am ei gostau byw. Nid oedd yn gwarafun hynny. Er bod ganddi ddeiliadaeth helaeth - coedwig bîn un erw ar bymtheg ar lethrau Vlegyasza, tair mil yn Denestornya, tir ffermio cyfoethog rhwng Aranyos a’r Maros, tri-chwarter o’r llyn mawr yn Lelbanya, a deiliadau llai yma ac acw - gwyddai nad oedd gan ei fam fyth arian dros ben, faint bynnag ei hymdrech i fod yn ddarbodus.

Yr oedd yn llawer gwell dod adref, lle gallai fyw yn rhad, a lle gallai, gyda’i brofiad a’i gymwysterau, efallai fod o gymorth i’w wlad.

Felly pan alwodd Rhaglaw yr ardal yn Denestornya pan yr oedd gartref ar wyliau o’i waith yng ngwanwyn 1904 gan ofyn iddo sefyll ar gyfer sedd wag Lelbanya yn y senedd, derbyniodd yn syth. Dim ond un amod oedd ganddo; roedd am sefyll fel ymgeisydd anibynnol, yn rhydd o ymrywmiadau pleidiol. Hyd yn oed dramor yr oedd wedi darllen yn y papurau newydd am y brywdrau seneddol chwyrn yn Budapest, a oedd wedi dymchwel dau lywodraeth mewn dwy flynedd, ac, i Balint, yr oedd y syniad o gael ei glymu i safbwynt plaid ac o fod yn ymrwymedig i ddilyn chwip plaid, yn gwbl ddi-chwaeth.

Ni wrthwynebodd y Rhaglaw, er syndod braidd i Balint. Cytunodd i’r label Annibynnol ar yr amod fod Balint yn parchu Cyfaddawd 1867 gyda Fienna, y cytundeb a sicrhaodd annibyniaeth i Hwngari. Ni soniodd y Rhaglaw mai’r hyn oedd ar flaen ei feddwl oedd cadw’r wrthblaid allan a sicrhau na fyddai Lelbanya yn cael ei chynrychioli gan ryw ‘ddieithryn’ a oedd wedi prynu ei sedd gan arweinyddion y pleidiau yn Budapest. Er bod Lelbanya, a fu unwaith yn dref frenhinol, ar i lawr, nes ei bod bellach yn ddim ond tref farchnad wledig gyda phrin dri chant o bleidleisiau, yr oedd yn dal yn meddu ar yr hawl i ethol aelod Seneddol. Am gryn amser yr oedd yr etholiad wedi ei rigio. Yr oedd y rhai hynny a oedd yn ysu i fynd i’r Senedd ac a oedd ag arian yn eu pocedi, yn dod o’r brifddinas i ennill y sedd. Byddai croeso iddynt - a’u pocedi’n cael eu gwagio gan y Rhaglaw a’i ffrindiau - i ymuno â gornest filain ar yr olwg gyntaf yn erbyn demagog uchel ei gloch, a gyflogwyd i ymladd y sedd, ac a bistyllai egwyddorion chwyldroadol 1848. Ar un achlysur, blinodd yr ymgeisydd o Budapest ar dalu’r arian ac fe dynnodd yn ôl; ac er mawr cywilydd ac embaras i’r cylch, cafodd yr ymgeisydd ffug ei ethol.

Petai’r Iarll Abady ifanc yn sefyll, gwyddai’r Rhaglaw na ai dim o’i le. Gan i bwll y dref roi’r gorau i weithio nifer o flynyddoedd yn ôl a chan mai tir gwael a oedd yn y cylch, a gynigiai fywoliaeth dlodaidd ar y gorau, yr oedd trigolion Lelbanya wedi byw yn bennaf trwy gasglu a gweithio cyrs y llyn, a berthynai i Abady. Yn erbyn perchennog y llyn ni fyddai gobaith i unrhyw ymgeisydd ‘dieithr’, oherwydd petai’r Iarll Abady yn penderfynu gwerthu ei gyrs rywle arall, byddai’r trigolion yn colli eu bywoliaeth.

Wrth gwrs ni soniodd y Rhaglaw am hyn wrth y gŵr ifanc. Siaradodd mewn termau cyffredinol yn unig, o’r angen am ymdeimlad o gyfrifoldeb, gwladgarwch, ac, ym mhresenoldeb yr Iarlles Abady, dywedodd mewn tôn gydymeimladol, y byddai hithau a’i phobl yn manteisio ar bresenoldeb yr Iarll ifanc yn ei wlad ei hun. Siaradodd hefyd am demtasiwn y cyflogau a enillwyd gan Aelodau Seneddol, oedd, er yn isel, yn ddefnyddiol. Pwysleisiodd na fyddai cystadleuaeth i godi embaras arno ac y byddai’n cael ei ethol fwy neu lai’n unfrydol. Dim ond pan yr oedd Balint a’i fam wedi cael eu hargyhoeddi yr aeth at asiant yr Iarlles, Kristof Azbej, i ddweud wrtho y byddai’n ddoeth iddo anfon dieithryn i Lelbanya a fyddai, mewn modd cwbl amlwg, yn asesu cnwd cyrs yr hydref i roi’r argraff fod yr Iarll Abady yn ystyried eu gwerthu rywle arall. Byddai’r etholwyr yn siwr o gael eu dychryn, ac yna, pan fyddai’r cnwd ar gael yn ôl yr arfer ar gyfer y dref, byddai’r Iarll Abady yn cael ei ethol. A dyna ddigwyddodd; er nad oedd gan Balint y syniad lleiaf pam yr oedd yr etholwyr yn ei groesawu mor frwd. Yr oedd diniweidrwydd Balint yn deillio nid yn unig o’i natur uniongyrchol ac o’i fagwraeth a oedd wedi ei gysgodi rhag anonestrwydd a thrachwant, ond hefyd o’r ffaith bod y blynyddoedd diogel rheini yng ngholeg Theresianum, yn y brifysgol a hyd yn oed yn y gwasanaeth tramor, wedi dangos iddo agweddau mwyn bywyd yn unig. Yr oedd ar hyd ei oes wedi byw mewn awyrgylch gysgodol lle roedd realiti drygioni y natur ddynol yn gwisgo masgiau; ac nid oedd gan Balint y profiad eto i weld y gwirionedd a guddiai tu ôl i hyn.

Nid oedd dim o’r pethau hyn ym meddwl Balint wrth iddo deithio’n araf tuag at Siklod yn yr hen goets a huriwyd. Gan wyro’n ôl yn ei sedd, meddwl ydoedd mor braf oedd bod yn ôl gartref eto, a chael y cyfle i roi ar waith yr hyn a welodd dramor, sut y gallai drosglwyddo manteision yr hyn a welodd o’r undebau llafur yn Yr Almaen, o’u ffyrdd o weinyddu eiddo, o fythynnod clwm a hawliau mân-ddeiliaid. Er ei fod eisoes wedi sôn am y pethau hyn wrth yr etholwyr, nid oeddent eto’n glir yn ei feddwl. Yn y cyfamser, yr oedd yr haul yn brydferth, yr oedd cefn-gwlad yn gwenu, a’r awyr yn las ac yn glir.

Cyfieithwyd trwy gymorth y Saesneg a’r Ffrangeg gan Sioned Puw Rowlands