schwob_logo

schwob

marcel
The World's Best Unknown Books
21 04 2014

Myfyrdod ar natur cariad, colled a henaint

Yn Enw'r Ddaear Vergílio Ferreira

Dyma un o weithiau olaf a mwyaf grymus Ferreira. Cyhoeddwyd y nofel yn 1991. Archwilia’r adroddwr ynddi natur cariad, colled a henaint ar ffurf llythyr i’w wraig, Mónica, a fu farw.

Barnwr yw’r prif gymeriad sy’n byw mewn cartref i’r henoed. Er yr awyrgylch pydredig o’i gwmpas mae’r barnwr yn gwneud ei orau i afael mewn bywyd wrth lythyru gyda’i wraig, gan ailgreu adegau angerddol o’u bywyd yng nghwmni ei gilydd tra’n myfyrio ar ei gorff methedig ac yn darlunio golygfeydd o’r cartref lle y’i gadawyd gan ei blant ‘i araf bydru’.

Cyhoeddwr
Bertrand
Genre
Ffuglen
Yr iaith wreiddiol
Portiwgaleg
Y gwreiddiol
En Nome da Terra (1990)
Cyfieithiadau blaenorol i'r ieithoedd canlynol
Ffrangeg