Vergílio Ferreira
Portiwgal
Awdur o Bortiwgal oedd Vergílio Ferreira (1916-1996). Cyhoeddwyd ei waith mwyaf adnabyddus, Manhã Submersa (Bore Dan Niwl) yn 1953 a chafodd ei gwneud yn ffilm yn 1980.
Treuliodd Vergílio Ferreira ei blentyndod a’i laslencyndod yn y Serra da Estrela (Melo, Gouveia) lle’i ganwyd yn 1916. Yn ddeg oed ymunodd ag athrofa grefyddol Fundão lle treuliodd chwe blynedd cyn gorffen ei addysg uwch yn Guarda ac yna graddio mewn Philoleg Glasurol yn Coimbra yn 1940. Bu’n athro ysgol, i gychwyn yn Évora (1945-1958) cyn dod i Lisboa yn 1959 lle bu’n dysgu yn Liceu Camões tan ei ymddeoliad.
Esgorodd cyfnod cyntaf ei yrfa fel awdur ar waith neo-realaidd. Ond magodd ei lais ei hun gan glosio at fynegiant dirfodol, yn arbennig tra’n trafod amser a phlentyndod wrth geisio disgrifio y profiad o’r ‘Fi’ yn ymddangos iddo am y tro cyntaf. Rhesymeg metaffisegol a dirfodol sy’n gyrru ei waith a’i ddiddordeb yn y cyflwr dynol. O’r 70au ymlaen ceir eironi yn nhôn ei waith, sy’n cael ei borthi gan yr argyhoeddiad bod pob gwirionedd yn llithro ymaith, pob tystiolaeth yn pylu, ac yn y pen draw, pob syniad yn gwyro tuag at farwolaeth.
Mae heneiddio yno yn y newid o fod yn fab yn dad, ond mae hefyd yn fater o symud oddi wrth amser a wastraffwyd at amser a ddyfeisiwyd, yn yr absoliwt a synir amdano trwy gyfrwng y cof, er bod y wers Broustaidd hon (neu gyflwr) wedi llwyddo i gadw ei chyfoesder yn llwyr yng ngwaith Vergílio Ferreira.
Bu farw yn Lisboa yn 1996.