schwob_logo

schwob

 
Yn ôl at y llyfr

Darn

Yn Enw'r Ddaear

Vergílio Ferreira

IV

Ac fe aethom. Finnau tu ôl, yn ddigyswllt fy nghorff ar fy ffyn baglau, Antoinette ar y blaen, tywelion a dillad ar ei braich. Dynes lydan oedd Antoinette, ei dwy ystlys wedi rhoi o achos y pwysau, mae’n siwr, a fu ar ei hil ers cenhedlaethau. Aeth a’n gadael ers rhai dyddiau a hynny wedi dweud arnaf rywfaint oherwydd mae angen amser i sefydlu perthynas. Mi fuaset ti, f’anwylyd, yn dweud bod hynny’n dibynnu. Mae balchder, dyfnderodd ein bod, a’r pethau hynny i gyd yn dod i’r un peth pan mae rhaid plymio i’r fath ddyfnderoedd. Un diwrnod, dywedodd Marcia wrthyf – heddiw does dim dyfnderoedd mwyach, rhan o’ch meddwl dryslyd yw hynny. Roedd eisoes ar ei hail briodas, na, ei thrydedd. Wel, tydw i ddim yn cofio.

Yr hyn nad fedrwch ei ddioddef mwyach ydi’ch pwysau eich hun, rydych yn ei daflu i’r stryd fel sbwriel ond tydw i ddim am drafod rwan. Dilynaf Antoinette i lawr coridor hir a drysau’n agor yma ac acw ar ei hyd. Gwnaf fy ngorau i’w dilyn a dywed Antoinette wrthyf – mi âf â chi mewn cadair olwyn ond nid oeddwn am fynd felly, doeddwn i ddim. Mewn cadair olwyn hanner uchaf fy nynoliaeth yn unig fuasai gen i. Doeddwn i ddim am weld hynny. Ond mae Antoinette yn amlwg am brofi’r rhan israddol, mae fel petasai’n cyflymu. Rwyf yn ei gweld o fy mlaen yn ei gwisg waith, gyda’i barclod gwyn wedi ei glymu uwch cwmpas ei chluniau. Ond ym mhendraw’r coridor daw i sefyll yn stond. Roedd ystafell gyferbyn a chyntedd arall gyferbyn ag ystafell arall, ystafell fawr dros ben y deuthum i’w hadnabod yn hwyrach yn unig. Yna sylwais ar bentwr o hen ddillad ar gadair. Cyffyrddodd Antoinette â’r pentwr – wyt ti’n cofio yn y pentref? Wrth lan y pyllau, byddem yn gweld o bryd i’w gilydd batsyn o wyrddni ar wyneb y dwr; o’i gyffwrdd byddai darn o wyrddni yn llamu ohono - broga. Cyffyrddodd Antoinette â’r pentwr dillad a chododd wyneb hynafol o blith y plygiadau dillad gan ddechrau llafarganu’n ddisymwth. Mewn llais cryg, wedi ei dorri â henaint. Ond aeth y mecanwaith yn sownd a phlymiodd yr wyneb yn ôl i ganol y dillad, gan adael o’i ôl ond pentwr o hen ddeunyddiau prudd. Mae hi’n gant a dwy, meddai Antoinette ac roedd ei chwerthiniad yn llawn pleser creadur â phŵer goruwchnaturiol yn perthyn iddo. Yn yr ystafell yr oedd oddeutu chwech ohonynt wrthi’n bwyta. Dyma’r rhai hynaf, meddai Antoinette wrthyf. Rwy’n ymddiddori yng ngwyddor y dyfodol, hoffwn weld sut olwg fydd arnaf ymhen amser a theimlo nawr y boen na fyddaf yn ei theimlo bryd hynny. Ceir chwech ohonynt ac maent bob un wedi plygu dros eu powleni, nis edrychant arnom. Mae hwn yn nawdeg a phedair oed, yr un fan acw yn wythdeg a saith, gwneud cownt mae Antoinette o’u hobsesiwn â bod yn fodau byw, nid ydynt yn ein gweld. Mae un yn colli bwyd, mae hi’n sychu ei geg ei wyneb ei siwt, mae’n aros cyn ailddechrau bwyta’n syth. Maent yn hardd a thrawiadol, rwy’n hoff o’u gwylio. Maent yn drasig ac yn fawr, rwy’n hoff o’u gwylio. Maent ymhlyg uwchben y bwrdd ac yn bwyta mewn tawelwch. Rydym yn oedi rhywfaint, ni roddasant y gorau i fwyta. Mae ganddynt genhadaeth i’w chyflawni, nid yw ein presenoldeb yn tynnu eu sylw oddi ar hynny, maent yn bwyta. Gadawsant o’u holau yr holl bethau hynny sy’n poeni dyn ac yn rhan o’r cyflwr dynol, rhyw, cynlluniau, pwer, pleser a dawns a’r cartref a’r gwaith a’r ddaear a mynd a dod a chynllwynio cymdogaeth a hyd yn oed efallai y fynwent lle sefydlasant gytundeb rhandalu, yn awr nid oes ganddynt yr un dim ac maent yn bwyta. Dyma eu cyfle olaf i feddu ar gorff a gwnant y gorau o’r cyfle. Y cyfle olaf i fwynhau pleser ei deyrnas meddyliais gan fynd braidd i uchelfanau athronyddol. Cyrff heb ddirgelwch ydynt, nid oes iddynt fywyd mewnol – beth sydd ar ôl y tu mewn i chi? Sgerbydau’r Hominidae ydynt. Safodd Antoinette, ei thywelion ar ei braich, mae’n aros i mi styrio, ond daliaf ati i’w gwylio nhw wrth athronyddu. Gweddillion ydynt o’r hyn a fu unwaith yn fawredd, hyd yn oed mawredd gostyngedig o fewn cyrraedd llaw broletaraidd. Oherwydd nid oes gan fawredd, f’annwyl Mónica, fawr o berthynas â’r hyn a wna’r anifail ynddom, yr hwn sydd yn gryf iawn ac sydd angen cryfder mwy fyth er mwyn peidio â bod yn gryf. Hen bobl ydynt, f’anwylyd. Wedi eu trin gan fywyd, gan sugno pob defnyn o’u heneidiau hyd nes ond gadael pibell dreulio. Mae’r bibell yno. Felly maent yn bwyta ond mae’n rhaid i mi adael, mae Antoinette yn colli amynedd ac mae ganddi’r awdurdod angenrheidiol ar gyfer hynny.

O fy mlaen roedd ystafell a ymddangosai fel petai ar gyfer gwaith llaw. Mae’n rhaid eu bod eisoes wedi bwyta neu eu bod yn aros i’r lleill frysio i orffen, rhaid oedd aros eu tro i fwyta. Roeddent wrthi’n torri papur yn batrymau hyd dragwyddoldeb, tair hen wraig yn llenwi casys cobennydd gyda phapur. Roedd un gŵr wrth fwrdd bychan gyda thaclau gwaith coed yn gwneud dynion bychain i’w dangos yn y nefoedd. Llwyddasant i gadw’r ysbryd creadigol i fynd, roedd bywyd yn rhoi estyniad iddynt a manteisio a wnaethant er mwyn creu mewn tragwyddoldeb. Gwelais ddynion bychain y gŵr, roedd Antoinette wrthi eisoes yn rhestru’r rheolau er mwyn fy nghymell i frysio, ond roedd yr awydd gen i i wylio. Roedd gan y gŵr hwn fywyd mewnol uwchben ei bibell drael. Roedd yn hardd, yn dal yn hyddysg mewn gramadeg harddwch, roedd ganddo’r gallu i greu a’r parodrwydd crynedig i ddweud na wrth farwoleth ac roeddwn yno yn ei wylio. Roedd ganddo wyneb main a hynafol, nid oedd wedi ei eillio, roedd ei chwerthiniad yn noeth o ddannedd ac yn llawn gwyleidd-dra; yr oedd ganddo ffordd arbennig o fod yn hapus ac anhapus. Credaf iddo farw yn fuan ar ôl hynny oherwydd ni welais ef wedyn. Dywedodd Antoinette bod angen i ni frysio ond roedd awydd gen i aros eto dipyn ac edrych ar ddirgelwch y cread. Dynion bychain i ddiddanu plant oedden nhw, Mónica, ac eto, mae’n rhaid bod y duwiau yn teimlo eu bod wedi eu bychanu. Chwerthynai’r hen ŵr mewn pleser y tu ôl i’w geg ddiaddurn a gofynais iddo gyda hyfdra cableddus
– Beth ydi diben y teganau hyn? Bodlonodd y gŵr ar chwerthin, ni wyddai, roedd yn ddigon diniwed i beidio â deall y gallai ffŵl fod am wybod. Oherwydd dim ond yr hwn na ŵyr beth yw celfyddyd sy’n adnabod ei ddiben a dyna Antoinette yn taro’r llawr â’i throed, roedd yn flin a chododd ei llais er mwyn fy nhynnu o’r fan hon a dangos i mi pwy oedd Duw.

Cyfieithwyd gan Sioned Puw Rowlands o Ffrangeg Geneviève Leibrich (Au nom de la terre, Gallimard, 1992)