schwob_logo

schwob

marcel
The World's Best Unknown Books
28 08 2013

Straeon o Ben Draw'r Byd

Merlin a'i Debyg Álvaro Cunqueiro

Cyfieithiad Colin Smith

Ymhell ar ôl brwydr olaf Arthur, mae Merlin a Guinevere yn goroesi. Maent yn ymddeol i’w cartref yn Miranda, yn nhalaith Galicia – er prin mai ymddeoliad yw’r gair. Daw cynrychiolwyr brenhinoedd a thywysogion Ewrop at ddrws Merlin, yn chwilio am waredigaeth rhag hen boenau byd o hud a lledrith.

Wnaiff Cunqueiro ddim siomi - y creaduriaid ôl-fodern chwareus rheini yn ein plith, na’r rhai chwareus-sentimental ychwaith.

Ana-Sofía Pérez-Bustamante

Cyhoeddodd Cunqueiro ei nofel gyntaf yn 1955 ar ôl cyhoeddi sawl cyfrol o farddoniaeth. Adroddir stori’r Merlin oedranus a ymddeolodd i’w gartref yn Miranda yn nhalaith Galicia, gan ei was bach, Felipe de Amancia, sydd yn hel atgofion am ei gyfnod yn gwasanaethu’r consuriwr.

Mae’r stori yn plethu realaeth a’r rhyfeddol. Daw pobl i dŷ Merlin o bedwar ban byd i ymgynghori ag ef ynghylch eu trafferthion: mae Ymerawdwr Byzantium wedi gwirioni ar wraig sydd yn ei hudo, mae’r Fonesig Aquitaine wedi ei gweddnewid yn elain gan ellyll, mae’r Fonesig Theodora, y forforwyn Roegaidd, angen lliwio ei chynffon i arddangos galar am ei chariad a gollwyd. Gelwir ar Merlin i ddatrys eu brychau a’r trychinebau maent yn eu dioddef trwy ei sgiliau cudd, ei hiwmor a’i wybodaeth ddofn o galon dyn. Creir byd llenyddol unigryw gan y straeon hyn. Maent yn dyst i bŵer naratif a hiwmor eironig a chraff, wrth blethu ynghyd fywyd bob dydd a bydoedd chwedlonol.

Cyhoeddwr
Everyman
Cyhoeddwyd
1996
Genre
Ffuglen
Yr iaith wreiddiol
Galisieg
Y gwreiddiol
Merlín e familia (1955)
Cyfieithiadau blaenorol i'r ieithoedd canlynol
Saesneg (UD), Almaeneg, Sbaeneg

Ar gael ar ffurf
Clawr papur
ISBN 978-0460877312
139 tudalen
$ 0,01
Prynu
Clawr papur
ISBN 978-0460877312
139 tudalen
£ 1,05
Prynu