schwob_logo

schwob

marcel
The World's Best Unknown Books

Álvaro Cunqueiro

Galisia

Awdur a newyddiadurwr yn Galisia oedd Álvaro Cunqueiro (1911-1981). Roedd yn ysgrifennu mewn Galisieg a Sbaeneg. Cyhoeddodd farddoniaeth, ffuglen, ysgrifau, ac mae’n dal yn ffigwr cwlt yn Sbaen. Cyfieithwyd ei waith i ddeg o ieithoedd.

Ganwyd Cunqueiro yn ninas gadeiriol fechan Mondoñedo yn 1911. Ei dad oedd fferyllydd y dref ac roedd ei siop ar y prif sgwâr a oedd yn fan cyfarfod ar gyfer trigolion y dref ac yn fwrlwm o gymdeithasu. Cofier am ei fam fel un a oedd yn meddu ar allu arbennig i adrodd stori. Cyfoethogwyd plentyndod hapus Alvaro yn ieithyddol gan ei dad oedd yn siarad Castilieg a’i fam oedd yn siarad Galisieg.

Astudiodd Hanes ym Mhrifysgol Santiago a bu’n ymwneud â materion llenyddol ers yn ifanc. Dechreuodd gyhoeddi cyfrolau o farddoniaeth yn 1932 a darllenai yn awchus mewn nifer o ieithoedd. Yn dilyn Rhyfel Catref Sbaen gweithiodd fel newyddiadurwr, gan deithio’n eang. Bu farw yn Vigo yn 1981.

Er yn fardd ac yn ysgrifwr cywrain, adnabyddir Cunqueiro yn bennaf fel awdur rhyddiaith, am ei feistrolaeth o eironi a’i hiwmor. Mae ei straeon mewn Galisieg a Sbaeneg yn cyfleu cyd-destun hanesyddol cyfoethog a llawn dychymyg. Fe’i hystyrir gan rai fel un sydd wedi cyfrannu at gynhysgaeth realaeth hudol America Ladin.

Álvaro Cunqueiro

Teitlau'r llyfrau