schwob_logo

schwob

marcel
The World's Best Unknown Books

Colin Smith

Lloegr

Roedd Colin Smith (1927-1997) yn adnabyddus fel awdurdod blaenllaw mewn astudiaethau canol oesol, ac yn iaith a geiriaduraeth Sbaeneg. Cafodd ei anrhydeddu gan Urdd Isabel la Católica yn 1988 ac fe’i gwnaethpwyd yn lywydd y British Modern Humanities Research Association (MHRA, 1996) ac yn aelod o Academi Frenhinol Sbaen.

Bu’n gyfrifol am y geiriadur Sbaeneg-Saesneg/Saesneg-Sbaeneg mwyaf blaenllaw, a gyhoeddwyd gan Collins. Roedd yn Athro Sbaeneg ym Mhrifysgol Caergrawnt (1975-1990), yn Olygydd Cyffredinol Modern Languages Review (1976-1981) ac yn awdur The Place-Names of Roman Britain (1979). Cyfarfu Colin Smith ag Álvaro Cunqueiro yn niwedd y pumdegau ac fe wobrwywyd ei gyfieithiad Merlin and Company yn 1991 gan lywodraeth Galisia - hynny fel y cyfieithiad gorau i’r Saesneg. Bu’n gyfrifol hefyd am gyfieithu King Amaz’d (El rey pasmado) gan Gonzalo Torrente–Ballester ar gyfer llyfrgell Everyman.

Teitlau'r llyfrau