Dystopia llawn ffraethineb
Epp Axel Jensen
Hanes Epp a gawn gan Axel Jensen yn y nofel hon - pensiynwr sy’n byw ar blaned ddi-enw mewn bloc o fflatiau a amgylchynir gan ganoedd o flociau eraill unfath. Rheolir y gymdeithas yn agos gan yr awdurdodau.
Mae Epp yn byw gyda’i blanhigion bwyta pryfaid o’r enw Ili, ac yn treulio ei ddyddiau’n coginio ŵy i frecwast, yn astudio papurau wal (roedd yn arfer gweithio mewn ffatri bapur wal), yn ysgrifennu adroddiadau ar ei fywyd bob dydd a mynd a dod ei gymodgion, yn torri lluniau o gyfnodolion ac yn eu gludo mewn llyfr. Yr unig bobl y mae mewn cysylltiad â hwy yw ei chwaer y mae’n anfon llythyrau ati a chymydog o’r new Lem, a symuda i ffwrdd. Mae Epp yn hapus os llwydda i goginio ŵy i berffeithrwydd, os nad oes sbotiau inc yn ei adroddiadau. Cynrychiola Epp y dinesydd cyffredin, a datgelir hyn gan ei enw tair llythyren. Petai ganddo swyddogaeth uwch, gallasai ei enw fod yn Eppe, Eppen neu hyd yn oed Eppenepp Epp; gallasai fod yn waeth, ysywaeth: Ep neu dim ond E.
Nid oes fawr ddim yn digwydd yn y nofel: ceir synfyfyrio, cynlluniau a thrafodaethau Epp. Nofel ddystopaidd sy’n darogan dyfodol tywyll i gymdeithas yw hon, ond hefyd nofel sy’n beirniadu y defnydd o dechnoleg i reoli cymdeithas. Mae’r hiwmor yng ngwaith Jensen yn ei gosod ar wahân i nofelau eraill sy’n mentro i’r dyfodol - megis gwaith Huxley, Bradbury, neu Orwell y bu i’w waith gael ei gymharu â hwy - ac yn agosach at nofelau dychanol Vonnegut.