Axel Jensen
Norwy
Awdur o Norwy oedd Axel Buchardt Jensen (1932-2003). Cyhoeddodd nofelau, barddoniaeth, ysgrifau, bywgraffiad a thestunau ar gyfer ffilmiau animeiddio.
Cafodd Jensen ei eni yn Trondheim, ond bu’n byw mewn nifer o wahanol lefydd (ar ynys yng Ngwlad Groeg, Llundain, Stockholm) cyn setlo’n ôl yn Norwy. Yng Ngroeg daeth yn gyfeillgar gyda Leonard Cohen, yn Llundain gyda’r seiciatrydd R.D. Laing, gan weithio fel cynorthwy-ydd iddo. Trwy gyfrwng ei wraig roedd mewn cysylltiad ag India ac roedd elfennau yn ymwneud ag India yn ei waith, gan gynnwys ysgrif ar Salman Rushdie. Yn ystod degawd olaf ei fywyd dioddefodd Jensen gan salwch fu’n gyfrifiol am ei barlysu yn y pen draw fel nad oedd yn gallu siarad nac ysgrifennu. Ysgrifenodd ddeg nofel, ac yn ogystal â’i waith ffuglenol, cyhoeddodd gyfres o erthyglau ac ysgrifau ar faterion gwleidyddol a chymdeithasol - yn arbennig ar ofal iechyd, a chyfrolau hunangofiannol.