Darn
Epp
Axel Jensen
Heddiw, cefais fy neffro gan sŵn modur; oedd mi oedd yna ryw rygnu modur tu allan i fy ffenest a churo ysgafn i’w glywed, fel petai rhywun yn taro’r gwydr â blaenau eu bysedd. Roedd rhaid agor er gwaetha’r tywydd diflas. Wrth lwc, doedd hi ddim yn wyntog. Mae’n gas gen i ddrafft.
Epp oedd yno, hynny ydi, fy nai Epp. Fel mae’n digwydd rydym yn rhannu’r un enw. Roedd allan am dro, yn hedfan o gwmpas. Nid yw’n canu’r gloch fel pawb arall, yn naturiol ddigon. O na, roedd rhaid iddo aros yn y fan honno, yn yr awyr, tu allan i fy ffenest, i fyny ar y pedwerydd llawr ar ddeg, yn gwneud sŵn bzzz, bzz, fel coblyn o gacynen fawr, efo rhyw ganistr coch a melyn ar ei gefn, ac allweddell o fytymau ar hyd ei blât brest, yn sglein i gyd. Fel panel deialu. Smart gynddeiriog. Gwelais fy hun wedi f’adlewyrchu ym mhob un o wydrau ei sbectol hedfan dywyll. Roedd ganddo helmed ddiogelwch am ei ben hefyd. Pob dim yn ei le, afraid dweud.
Mae Mam yn cofio atat, Epp! gwaeddodd uwchben grwndi ei beiriant hedfan.
Welwyd erioed y fath ffrwmpyn! Yn dod yma i ddangos ei hun fel yna! Doedd yn poeni dim arna i iddo fy ngalw yn Epp. Na, pam fuaswn i’n poeni am hynny? Wedi’r cyfan, mi wn i pwy ydw i. Mae mor syml â hynny. Jyst galwa fi’n Epp, meddyliais. Beth bynnag, nid fy syniad i oedd galw’r hogyn yn Epp. Syniad fy chwaer oedd hynny. A hi sy’n ei yrru yma i ymweld â mi. Mae hi’n byw yn Pölt. Roeddwn innau’n arfer byw yn Pölt. Ond mae yna ddeg ar hugain o flynyddoedd ers i mi weld fy chwaer. Mae hi’n sgwennu, cofiwch, rydym yn llythyru efo’n gilydd a bob hyn a hyn caf lythyr, ac ynddo bob tro hanes yr Epp bach, y paragon hwnnw o rinwedd perffaith a berthyn i fy chwaer yn Pölt. Yn yr hydref, mae am gystadlu yn yr Olympiad Mathemateg, meddyliwch, yr hen dderyn iddo. Os yr aiff popeth yn iawn, hynny ydi. Mae o’n dipyn o hen ben efo ffigurau, fel mae nhw’n dweud. Pwy a ŵyr? Efallai rhyw ddydd y gwelwn ni o ar y bocs teledu? Ar ysgwyddau Epp y mae’r dyfodol yn gorffwys rwan, meddai yn ei llythyrau. Does dim terfyn i’w chanmol. Mae hi’n ei ddifetha. Y siwgr mêl medda hi. Yr hen goc oen, meddaf i. Golwg go welw sydd arno o fod yn eistedd yn y peiriant dysgu. Mae’n edrych fel merch. Dychmygwch y fath greadur yn teyrnasu arnom! Mi gaiff aros gartref lle mae ei iawn le. Y cymdeithasegwyr hefyd. Boed iddynt adael llonydd i’r tyrrau fflatiau efo’u cyfweliadau a’u profion. Mae’n rhaid bod miloedd o gymdeithasegwyr a’u trwynau yn ein sector, yn gwneud arolwg ohonom ni dwpsod. Er ein lles ein hunain, mae’n debyg. Dwi ddim yn meddwl. Does gen i fawr i’w ddweud wrth bobl sydd am wneud astudiaeth ohonof. Ac mi wn beth sydd orau er fy lles fy hun. Beth bynnag, mi wn yn iawn mai’r cymdeithasegwyr sydd f’angen ar gyfer eu hymchwil, nid y fi sydd eu hangen nhw. Y fi pia’r llaw uchaf. Dwi’n sicr o hynny. Hen lwynog ydw i erbyn hyn. Ond mi gant gadw draw. Epp hefyd. Wna i ddim rhoi lle iddo ddod yma a byhafio fel petasai eisoes yn Eppe neu Eppen, ddim tra mae’n parhau’n Epp plaen. Caiff sticio at ei Sefydliad Peiriant Dysgu. Rydym ni yn nhŵr 982 yn bodloni bellach ar enwau dibwys a stafelloedd cyfyng. Boed iddynt felly roi llonydd i ni!
Iawn, Epp! gwaeddais. Cofia fi ati hi! gwaeddais. Dwed wrthi fy mod i’n cadw’n iawn!
Mi wnaf! gwaeddodd.
Ac i ffwrdd ag o gan hedfan yn canu grwndi fel gwenynen rhwng wynebau’r tyrrau tal, ei ddwylo ar sêm ei drowsus a’i draed yn llusgo o’i ôl yn yr awyr. Ond yn lle hedfan ymhellach tuag at ganol tref Oblidor, mi drodd yn swta, ger Bloc 978, gan ddechrau dod i lawr yn araf bach fel petasai’n dod tuag at ein cofeb, ei ddwylo’n chwarae ar allweddell ei beiriant wedi ei strapio’n sownd i’w frest. Yr oedd y ddau gawr dur newydd orffen glynnu yn ei gilydd am eu bywydau. Roeddent bellach yn plygu eu pengliniau, ac yn pwyso’n ôl ar eu trofwrdd, yn codi eu dwylo haearn di-staen yn araf bach at eu talcenni, ac fel petasent yn syllu i grombil y byd. Yr oedd fy nai fel petai’n cael rhyw bleser o astudio’r cerfluniau’n fanwl. Wrth gwrs cynrycholi Kargon a Jarosi y maent i fod i wneud. Arwyr ydynt yma yn Gambolia. Kargon a Jarosi a yrrwyd i’r gofod. Ond ni ddaethant erioed yn eu holau. Diflannu wnaethant heb siw na miw. Mae yna nifer o flynyddoedd wedi pasio ers hynny, ond tipyn o arwyr ydyn nhw, ac mae Gweinyddwyr ein bloc yn sensitif iawn wedi dewis mynegi eu parch tuag atom trwy godi’r gofeb hon mewn lle cyhoeddus, ar y lawnt rhwng y fflatiau. Maent yn troelli mewn olew, yn troelli ac yn troelli’n araf bach, mewn olew. Mae’r cymal lleiaf yn medru symud, yn wir mae pob un o’u cymalau yn medru symud fel mewn bywyd go iawn. Maent yn medru, er enghraifft, bwyntio atom, ni bensiynwyr y byd awtomatig, yn eistedd yn ein fflatiau un-person, yn edrych arnynt yn troelli yn araf bach ac yn osgeiddig ar eu hechel. Liw nos, pan agoraf y llenni a gweld y ddau gawr, i lawr ar y gwair, yn nofio mewn pwll o olau, yn troelli o gwmpas ei gilydd, yn ymroi i’w allegro bolero, eu dawns haearn, os y caf ddweud felly, wel, mae fel petasai golau tragwyddoldeb yn disgleirio arnaf.
Roedd golwg ples efo’i hun ar Epp. Roedd fel petasai ein myfyriwr disglair wedi gweld y cyfan. Oherwydd dechreuodd godi llaw arnaf a gwneud stumiau. Codais fy llaw a chwifio’n ôl. Ac wedi i ni fod yn gwneud hyn am beth amser, rhoddodd ei ddwylo yn ôl ar sêm ei drowsus a chododd yn gyflym uwchben y lawnt i gyfeiriad bloc 978, fel un o’r deifwyr tanfor hynny amser yn ôl, yn gwneud defnydd o’i esgyll nofio i godi’n ôl i wyneb y dŵr. Yr oedd grwndi ei beiriant hedfan yn atsain rhwng y waliau concrid. Hedfanodd i’r hollt dywyll, sy’n gysgod rhwng bloc 978 a bloc 980. Yn wir diflannodd i’r cyntedd rhwng y blociau, fel petai.
Draw ym mloc 980, ar yr un lefel â fy ffenest, gwelais wyneb, sef dyn moel ar ei ben ei hun. Fe’i gwelais o’r blaen, ond mae’n rhy bell i ffwrdd i mi fedru gweld ei nodweddion yn glir. Beth bynnag, nid wyf yn gweld cystal ag y dylwn. Nid golwg byr na golwg bell sydd gen i, hyd y deallaf, dim ond fy mod, am wn i, yn hanner dall. Ond gwelwn yn ddigon clir i ddeall ei fod yn welw ac yn foel, yn hen ŵr a dweud y gwir. Yr oedd ganddo sgarff felen o gwmpas ei wddf. Safai yno, heb symud gewyn. Dychmygaf mai glöwr wedi ymddeol ydyw, dyna ydi trigolion Bloc 980 bron i gyd, o’r pwll cloddio metel yn Timdk. Fe’u cartrefwyd yno ymhell cyn i’r robotiaid gymryd drosodd y diwydiant papur wal a chyn i mi gael fy nghartrefu yma. Mae blynyddoedd wedi pasio ers i mi sylwi arno am y tro cyntaf. Does gen i mo’r syniad lleiaf pwy ydi o ond byddwn ein dau yn sefyll yn y fan hon yn syllu ar ein gilydd fel hyn yn y bore bach, gan gario ymlaen tan i un ohonom orfod rhoi’r gorau iddi. Y fo sydd yn rhoi’r gorau iddi’n gyntaf bron bob tro. Aha, meddyliais. Ac yna tynnais y llenni eto, gan droi’n ôl i wyll fy stafell.
Euthum yn syth at yr ŵy. Yr oedd yn barod i gael ei ferwi. Dweud ydw i nid bod ŵy yn barod i’w ferwi ond bod yr ŵy yn barod i’w ferwi, oherwydd ni fyddaf fyth yn berwi mwy nag un ŵy i frecwast, felly i mi yr ŵy hwn yw yr ŵy yn syml iawn, a dim byd ond yr ŵy. Fel arfer mae’n cymryd pedwar munud a hanner i ferwi’r ŵy brecwast, felly os byddaf yn gwneud ymdrech ac yn canolbwyntio fy holl sylw ar ferwi’r wy a dim arall, yna byddaf yn gwybod beth fydd i ddod efo’r pedwar munud a hanner nesaf. Bwriadaf fod yn feistr ar fy mywyd ac ar fy meddyliau fy hun.
Felly euthum draw at yr ŵy. Gadewais i Epp fod yn Epp, anghofiais bopeth, mesurais yr ŵy yn ofalus gyda’m llygad, ei deimlo â blaenau fy mysedd, ei bwyso yn fy llaw, gan sefyll yn y fan a’r lle, fy llygaid ynghau, a chreu rhyw gyswllt gyda’r ŵy cyn ei roi yn y rhwyd ŵy a’i ollwng yn ofalus i’r tegell. Ond yn gyntaf gwneuthum yn siwr fod y dŵr yn iawn, hynny ydi, fod y dŵr yn mud-ferwi yn unig, oherwydd os gollyngaf ŵy i degell â’r dŵr yn berwi’n gryf mae peryg i’r ŵy gracio ac i’r gwynwy ferwi allan i’r dŵr. Y gwahaniaeth tymheredd rhwng yr ŵy a’r dŵr berwedig sydd yn bygwth cracio’r ŵy, a’r ffaith bod yr ŵy, yn y berw, yn cael ei daflu i bob cyfeiriad. Rwyf yn ymwybodol bod y rhan fwyaf o bobl yn ein hardal blanedaidd ni yn berwi eu hwyau gyda phelydrau, ond yn ffodus rwyf yn ddigon hen-ffasiwn i ddefnyddio tegell a dŵr, yn yr un modd ag yr wyf yn un o’r ychydig rai sydd yn eistedd fan hyn liw nos yn ysgrifennu adroddiadau i mi fy hun gyda beiro ac inc.
Cyfieithwyd trwy gymorth y cyfieithiadau Ffrangeg a Saesneg gan Sioned Puw Rowlands