Llythyrau o'r Rhyfel Mawr
Bywyd yn y Bedd Stratis Myrivilis
Cyfieithiad Peter Bien
Mae campwaith Stratis Myrivilis, ‘Bywyd yn y Bedd’, yn cyflwyno profiad personol o’r rhyfel gyda manylder, parch, a rhwystredigaeth - hynny mewn llais sydd ar yr un pryd yn delynegol a chras.
Y nofel fwyaf llwyddiannus a phoblogaidd yng Ngwlad Groeg ers y Rhyfel Mawr.
Peter Bien
Yn hogyn ifanc, gwirfoddolodd Stratis Myrivilis i ymladd yn Rhyfel y Balcannau yn 1912 ac 1913. Roedd yn filwr wrth gefn yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe gymerodd ran yn yr ymgyrch filwrol yn Anatolia yn 1921 ac 1922. Tyfodd ‘Bywyd yn y Bedd’ o’i brofiad helaeth yn y rhyfel, yn tynnu ar ei ddyddiaduron. Ymddangosodd y nofel i gychwyn ar ffurf cyfres o benodau, hynny ar ynys Lesvos yn nechrau 1920, ond yn 1930 cyhoeddwyd fersiwn a olygwyd a’i ymestyn yn helaeth, yn Athen, lle bu’n llwyddiant o’r dechrau un. Dyma un o ffefrynnau’r Groegwyr.
Mewn penodau byr a gyflwynir fel llythyrau i’w gariad, mae’r sarjant Antonis Kostulas yn cynnig perspectif personol ar y rhyfel lle mae moesoldeb gwrol traddodiadol a phropaganda yn raddol ddisgyn yn ddarnau. “Yn fyr, mae gwallgofrwydd y Groegwyr, eu byrbwylldra yn frych. Rydym yn delio yma gyda rhyfel tanddaearol,” meddai’r prif gymeriad. Ac felly mae’r syniadau a’r fetaffiseg yn disgyn yn ddarnau. Mae bywyd yn fater o gig a gwaed; mae’r ffaith iddo ddod mor agos at farwolaeth yn gweud i’r sarjant werthfawrogi pŵer afieithus bywyd.