Darn
Bywyd yn y Bedd
Stratis Myrivilis
Pennod 2: Diwedd sy’n ddechrau
Diolch i Dduw, rydym wedi dod i stop. Wedi cyrraedd y ffos. Diwedd a dechrau ydi ystyr hynny: diwedd y martsio truenus, di-ben-draw, a dechrau ar fywyd y ffosydd - profiad cwbl newydd. Mi fu dyddiau lle bûm yn holi fy hun, “Dduw graslon, a ddaw’r cerdded yma fyth i ben? Heneiddio a wnaf dan gerdded, gan ddod i stop ond i farw.”
A minnau wedi syrffedu ar fod ymhell oddi wrthyt, penderfynais anfon atat f’argraffiadau o’r bywyd newydd hwn. Ysgrifennaf bob hyn a hyn, pa bryd bynnag y daw cyfle, a’r galon gennyf. Mae’n fodd o sgwrsio â thi, ac mae gwybod bod rhywun annwyl gerllaw - rhywun sydd yn deall ac sydd yn cynnig cymundeb - yn gysur neilltuol, yn arbennig wrth fyw trwy gyfnodau mwyaf tyngedfennol bywyd. Clyw’r unigolyn hwn dy feddyliau, yn fewnol fel petai, er efallai ei fod dan yr argraff nad yw’n gwrando arnynt o gwbl. Rhaid dy fod wedi sylwi ar hynny. Mae gwraig yn rhywle yn eistedd yn llawn amynedd gyda’i hanwylyd, mewn ystafell fechan gysurus, y ddau ohonynt yn unig a dim oll ond ychydig lyfrau da, darlun neu ddau ar y wal, lamp yn aros iddi nosi, ei chalon yn ei dwrn, stondin inc (gwrthrych mor bwysig yw hwnnw!), a’r cadeiriau mewn cylch. Ni yngenir air gan y naill na’r llall. Mae’r ddau wedi ymgolli yn eu meddyliau neu efallai ddim yn meddwl mewn modd ymwybodol o gwbl. Dyna’r foment aur, oherwydd mae eu heneidiau, yn rhydd fel dwy wennol, yn dianc, yn cyfarfod Archenaid diderfyn y cyfanfyd ac yn diflannu, wedi eu hamsugno’n frawdol ganddo. Yn fwy na heb, sut bynnag, mae pob enaid yn ymgomio gyda’i dawelwch ei hun. Ac eto sylwer mor hanfodol i’r ‘ymgomio’ hwn y mae’r cydymaith hynod arbennig sydd yn eistedd gerllaw yn dawedog, neu sydd o bryd i’w gilydd yn yngan ychydig eiriau ar faterion cyfoes, geiriau sydd yn ymgais ddistadl ar ran rheswm i gyfiawnhau llais melys y tawelwch. Wrth eistedd yno’n ddistaw a deallus, heb fod mewn geiriau, mae’n glust - heb amau dim - i ymson nas mynegwyd gan y llall. Ond yr eiliad y mae’n penderfynu codi a gadael ochr ei wraig, daw â phopeth i ben; mae wedi gorffen. Iddi hi mae parhau â’i chymundeb mewnol â dyfnderoedd ei bod tu hwnt i ffiniau posibilrwydd. Weithiau y wraig yw’r gyntaf i godi ar ôl rhannu un o’r cyfnodau tawedog hyn. Ni chyfnewidir air trwy gydol yr amser hwn, ac eto, pan goda i adael, tan wenu ar ei chyfaill, ar yr un foment teimla’r ddau eu heneidiau’n llawnach ac aeddfetach, yn gorlifo gyda nerth a rhyddid - oherwydd fe’u cyffyrddwyd yn dyner gan adenydd nifer lu o wirioneddau, fel ieir bach yr haf gwridog.
Mae rhywbeth tebyg yn digwydd i mi, yn gwneud i mi fod eisiau cyfeirio fy meddyliau atat ti. Er gwaethaf dy dawedogrwydd, rwyf yn cymryd dy fod yma yn rhywle, yn agos ataf. Ar adegau cyffelyb yr wyf yn ymroddi fy hun yn gorff ac enaid i f’ymson, y mae dy absenoldeb yn ei lenwi â phresenoldeb.
Pan wêl Duw yn dda i roi diwedd i’r rhyfel hwn, rhyw ddydd mi gawn eistedd gyda’n gilydd, ochr yn ochr, a throi’r tudalennau annheilwng hyn. Bydd y nosweithiau hir gaeafol wedi dechrau eisoes, a brys yng nghamau’r bobl wrth basio. Dim ond eu clywed yn troedio’r cerrig crynion dan draed a wnawn, gan wybod serch hynny bod eu dwylo’n ddyfnion ym mhocedi eu cotiau mawr, eu hetiau wedi eu tynnu’n wirion o dynn dros eu penglogau nes cyrraedd at eu heiliau, a’u hysgwyddau crebachlyd yn ymestyn mor uchel ag y medrant at eu clustiau. Bydd caeadau gwyrdd dy ffenestri wedi eu cloi’n dynn, bydd peraroglau ffrwythau aeddfed yn llenwi’r ystafell, a byddaf yn gorweddian yn ddiog yn y gadair freichiau o flaen y badell gopr anferth honno o Gaergystennin. Byddaf yn llenwi fy mhîb ac yn ei goleuo; byddaf yn pwnio’r tân, gan roi proc efo’r gefel efydd i’w galon eirias sydd fel felfed lliw ceirios dwfn; a byddaf yn dy wylio wrth i ti eistedd wrth y bwrdd pren collen Ffrengig o dan y cylch o olau a deflir gan y lamplen werdd, yn darllen o’r llyfrau copi hyn yn dy lais llawn a chlir. Byddaf yn clywed ei ansawdd bachgenaidd ac yn dychmygu fy mod yn gwrando ar wythien o ddŵr yn byrlymu yn unswydd ar fy nghyfer yn nyfnderoedd y ddaear. Ar fy nghyfer i’n unig - ac ni fydd yr un enaid byw yn synhwyro fy ngwynfyd dirgel. Byddwn wedi priodi, bydd ganddom ein cartref ein hunain. Dewiswn ein dodrefn gyda’n gilydd, gan sicrhau eu bod yn ddarnau syml a chadarn, fel bod modd i ni eu gwerthfawrogi. (Anodd fyddai i ti ddychmygu, f’annwyl un, mor annymunol yw cael yn gwmni ddodrefn sy’n sefyll yn ymhonus yn d’ymyl fel nad oes modd i ti gyd-dynnu â nhw.) Byddi wrth dy fodd efo’n dodrefn, ac mi fyddi hefyd wrth dy fodd efo’r llyfr sgwennu hwn oherwydd wrth i mi ysgrifennu ynddo, rwyf yn meddwl amdanat yn barhaus.
F’anwylyd, yn ystod yr amser anarferol hwn, a minnau mor agos at farwolaeth a fy nwylo mor bell oddi wrth dy rai dithau…
Pennod 12: Tref anghyfannedd
Roedd hi’n nos pan aethom i mewn i dref Monastir, a nos oedd hi hefyd pan adawsom. Nid oes golau ar strydoedd y dref fawr Serbiaidd hon, y tai yn dywyll, heb lampau yng ngolau yn eu ffenestri. Mae’r preswylwyr - ceir Groegwyr yn byw yma - yn cerdded yn lladradaidd; yn sibrwd wrth sgwrsio, yn crynu mewn ofn wrth syllu ar yr awyr, ac yn byw dan ddaear yn eu seleri, neu mewn tyllau a dyllwyd o dan eu tai. Abris ydi’r enw ar y tyllau hyn gan ein cynghreiriaid Ffrengig; hynny ydi, ffosydd. (Dysgasom y gair hwn, heb lawn ddeall llwyr erchylldra ei ystyr; wedyn y daeth hynny.) Defnyddiasom sgwâr mawr cyhoeddus fel man i ollwng ein paciau dros dro ac aethom o’r fan honno i geisio cael syniad o ble’r oeddem. Mae’r dref hon yn glir yn llwybr y brwydro. Dangosodd y Ffrancwyr a’n tywysai o gwmpas danciau i ni a oedd wedi eu dinistrio gan ffrwydron, fel petaent wedi eu taro gan fellt. Dangoswyd i ni dai a oedd wedi eu llosgi gan daflegrau. Mae’r taflegrau hyn yn poeri deunydd tanllyd, gyda phob un o’r darnau yn hopian o fan i fan gan ffrwydro o’r newydd, ac felly’n lledaenu’r danchwa’n eang. Roedd y glaw llosg hwn (nad oes modd ei ddiffodd gan ddŵr) yn creu dinistr di-droi’n ôl lle bynnag y glaniai.
Gwelais stryd a oedd unwaith yn hardd yn gorlifo â thawelwch yng ngolau’r lleuad. Ar bob ochr: rhes ddi-ddiwedd o adeiladau wedi eu llosgi’n ulw, eu waliau parddu yn ymestyn at yr awyr las drom. Yr oedd golau’r lleuad yn martsio i mewn ac allan heb rwystr, yn pasio trwy fframiau’r ffenestri gweigion, yn llithro tu ôl i ddrysau agored balconi, yn llenwi’r tai gyda noethni tawel marwolaeth. Sgerbydau oeddynt - esgyrn noethion, di-gig y cragenni gwrthun - yr adeiladau hyn a fu unwaith yn annedd-dai gorfoleddus. Wedi eu lladd gan ryfel.
Aeth y sî ar led ar unwaith bod Groegwyr wedi cyrraedd y dref. Roedd hyn yn rhyfeddol, o ystyried bod ein dillad sowldiwr, ein helmedau - ein holl drugareddau - yn perthyn i Ffrainc, ac i ni fynd i mewn i’r dref ar y Q. T. Ond gwibiasant allan o’u tyllau tanddaearol fel llygod a heidio o’n cwmpas - dynion, merched a phlant (ond yn bennaf, merched a phlant), bob un â’i fasg nwy yn hongian o gwmpas ei wddf - maent yn gwisgo’r rhain ddydd a nos i’w gwarchod rhag nwy. Cusanwyd ein dwylo, byseddwyd ein reifflau, anweswyd ein helmedau, ac agorwyd a chaewyd fytymau ein cotiau mawr - a chrio a wnaethant yn dawel yng ngolau’r lleuad.
“Oes bosib fod hyn yn wir? Groegwyr ydach chi go iawn? Groegwyr o Roeg? Ein brodyr?”
“Wel ie siŵr! Beth oeddech chi’n ei ddisgwyl?”
Eglurasant wrthym eu bod wedi bod yn disgwyl amdanom trwy holl flynyddoedd y gorthrwm, yn breuddwydio amdanom, yn ein cymell ar gân ac yn ein haddoli, heb hyd yn oed wybod pwy oeddem. “A bellach, dyma chi o’r diwedd, wrth ein hochr. Boed i Grist a’r Forwyn Fair ofalu amdanoch! Ac os gwelwch yn dda, frodyr, peidiwch â gadael i ni fyth eto ddisgyn i ddwylo y Serbiaid. Maent wedi ein gorthrymu yn ddifrifol, am y rheswm syml ein bod yn Roegwyr.”
Dywedodd un gŵr wrthyf: “Os ydyn nhw’n ein clywed yn yngan gair o Roeg ymysg ein gilydd, cawn ein chwipio. Tydyn nhw ddim hyd yn oed yn gadael i ni ddathlu’r offeren mewn Groeg. Caewyd ein holl eglwysi, a’n hysgolion hefyd, oedd mor ryfeddol o dda. Amharchwyd ein gwragedd, ein holl wragedd, tra gwyrdrowyd ein dinas yn un puteindy mawr. Mae’r gwragedd yn gorfod ildio; fel arall rhoddir stop ar eu rasiwns bara. Ac nid oes neb yn cael achub ei groen trwy adael y ddinas. Mae’r Serbiaid wedi baricadu pob llwybr, ac maent yn saethu i ladd.”
Arglwydd Mawr! Pam ar y ddaear y daethom yma, felly? I ryddhau’r Groegwyr trwy ymladd y Serbiaid, neu i ryddhau’r Serbiaid (ein cynghreiriaid; wedi eu bradychu gan y brenin a wrthodwyd ganddom) trwy ymladd Yr Almaenwyr a’r Bwlgairiaid? Dechreuodd rhywbeth ynom sigo. Ein ffydd yn yr hyn a ddywedwyd wrthym yn Lesvos? Wedi drysu, ychwanegwyd ein dagrau at eu dagrau hwythau.
Cyflwynwyd i ni anrhegion bychain syml di-ben-draw; ym mhob seler roeddent wedi paratoi loukoumadhes a danteithion eraill wedi eu ffrio mewn olew a blawd, er gwaethaf eu rasiwns poenus o annigonol. Daeth haid o hogiau tuag at fy mhlatŵn i a dechreuasant bob un ganu’r Anthem Genedlaethol mewn lleisiau tawel, eu capiau yn eu dwylo, yn cyffwrdd â’n llewys, dan wylo. Ond daeth heddwas milwrol Ffrengig o swyddfa’r profost tuag atom a mynnu distawrwydd: “Dim twrw!”
Gofalodd gwraig â sgarff ddu am ei phen ei bod yn rhoi cyngor pwrpasol i ni er mwyn delio â nwy. “Cadwch eich masgiau gyda chi, frodyr.” meddai gyda gofal tyner. “Y diwrnod o’r blaen bombardiwyd ni gan y Bwlgariaid gyda ffrwydriadau nwy wnaeth ladd chwech o’n plant wrth iddynt swatio yn adrodd straeon wrth ei gilydd (roedd hynny yn fy rhan i o’r dref). Gosodwyd eu cyrff ar erchwyn y ffordd mewn rhes, a’u cadw yno am ddiwrnod cyfan tra roeddent yn ffilmio ac yn tynnu lluniau ohonynt, gan ddefnyddio rhai o’r lluniau hyn ar gyfer eu cardiau post!”
Gosododd merch ei hun wrth f’ymyl ac aros yno’n sefyll am beth amser, heb yngan yr un gair. Yr oedd o bryd tywyll, gyda llygaid mawrion, ac mor denau â chypreswydden ifanc. Dim ond sefyll ac edrych arnaf yr oedd, gan anwesu strap fy ngwn yn ddifeddwl gydag un bys. Syllais yn ôl arni, gyda gwên ar f’wyneb. Gallwn weld golau’r lleuad yn ei llygaid. Ni wenodd. Yn sydyn, taflodd becyn o fariau siocled i mewn i fy mag.
“Cymerwch nhw,” meddai dan sibrwd. “Cymerwch nhw. Pan fyddwch yn y ffosydd gadewch iddynt fod yn atgof i chi o’r hogan yna o Monastir, hogan na welwch fyth eto…”
“Pam? Sut y gallwch fod mor siwr eich pethau?”
Ysgydwodd ei phen yn bendant. Disgynodd cydun o wallt rhwng ei heiliau cynhyrfus gan hongian yno fel marc cwestiwn du.
“Gwn yr hyn a wn… O ble ddaethoch chi? Dwedwch wrtha i, fy mrawd.”
“O Lesvos. Mae pob un ohonom yn dod o Lesvos.”
“Lesvos?” Gan wenu o’r diwedd, roedd ei hosgo bellach fel hogan ysgol ar ddechrau adrodd, ac yna, ar gyflymder mawr, ynganodd, mwyaf doniol: “Lesvos, cartref Sappho, Alcaeus, Arion, Pittacus a Theophrastus, tarddle canu telynegol…”
Am gyfareddol! Aeth pob un o’r enwau hynny, wrth iddynt groesi ei gwefusau yn y ffordd bedantig honno, yn syth at fy nghalon, fel y gwnaeth, yn sydyn, y ferch ei hun. Gwthiodd ei ffordd i mewn gyda’r un beiddgarwch â theulu yn tarfu ar aelod o’u plith yn ei ystafell. Gallasai fod yn enaid tanbaid Sappho, fy mam gysegredig; gallasai fod yn neb llai nag enaid ynys Lesvos ei hun, yn aros amdanaf yma yn Serbia, er mwyn cyflwyno i mi becyn o siocled.
Gafaelais yn dynn yn ei llaw yn y tywyllwch a’i chodi at fy nghwefusau, gan eu dal yno am beth amser. Roedd yn go-oer; ac roedd yn ildio.
“Diolch. Diolch o waelod calon … Rydych yn ferch dlws, ac yn un garedig hefyd … beth yw eich enw? Mi fyddaf yn ei gofio bob amser gyda diolch.”
Y foment honno rhuthrodd cadlywydd fy mhlatŵn ataf gan ddweud wrthyf redeg mor gyflym â phosib i nôl ein huwch-ringyll. “Gofynnwch iddo gasglu ynghyd y platŵn. Ond gofal, dim chwibanu, dim sigaréts, dim siarad. Byddwn yn gadael ym mhen pum munud.”
Fy mrawd oedd uwch-ringyll y platŵn. Rhuthrais i’w nôl. Toddodd y ferch i’r tywyllwch a diflannu, yn ddi-enw.
Cyfieithwyd gan Sioned Puw Rowlands