schwob_logo

schwob

marcel
The World's Best Unknown Books
28 08 2013

Y Byd yn ôl Morgrug Gwynion

Darlith Yr Athro Mmaa Stefan Themerson

Cyfieithiad Stefan Themerson

“Argymhellaf y llyfr hwn i’r darllenydd oherwydd mae’n lyfr o bwys, yn drawiadol ac yn llawn hiwmor llym. Nid wyf yn addo y bydd y darllenydd yn chwerthin yn ddireolaeth, ond gallaf sicrhau y caiff bleser mingam wrth brofi datgymalu ffolineb.” Bertrand Russell

Mae Thermerson yn meddu ar arddull arbennig ac mae’n feddyliwr gwreiddiol gyda gweledigaeth eang. The Boston Globe

Mae ‘Darlith Yr Athro Mmaa’, a draddodir i ddarlithfa orlawn, yn ymdrin ag arferion, meddylfryd a diwylliant y ddynol ryw. Ond morgrug gwynion yw’r Athro a’r gynulleidfa gyfan; mae’r stori wedi ei gosod mewn twmpath ohonynt.

Mae’n anorfod bod ymgais Themerson i ddeall dyn trwy archwilio sut y byddai pryfaid wedi eu gweld a’u deall yn ddoniol. Does gan forgrug gwynion mo’r gallu i weld, dim ond synnwyr arogli; dim ond trwy eu perspectif pryfetol ar y byd y maent yn gallu egluro eu hamgylchfyd a’u bywydau. Datgela olygfa glo y nofel yr hyn mae’r morgrug gwynion wedi bod yn ymchwilio iddo a’r hyn sydd wedi digwydd i’w twmpath, gan roi tro eironig i’r stori.

Ond mae gan y nofel hon lawer mwy i’w gynnig. Mae arbenigedd a greddf Themerson i barodïo iaith a method ysgolheictod, a moesau a ffyrdd y byd academaidd, yn creu arolwg comig a didrugaredd o agweddau athronyddol. Mae’n gwawdio crefydd, iaith, rhesymeg, ysgolheictod, wrth i feddylwyr pryfetol gydag enwau amheus o gyfarwydd sgrialu ar hyd tudalenau’r nofel. Dadlennir mor hurt yw cymaint o ffyrdd dogmataidd a chul o feddwl. Yr unig lwybr sy’n llwyddo i ennill parch yr awdur yw lluosogaeth syniadau. Gellir deal i’r dim pam y bu i Bertrand Russell ddisgrifio’r nofel hon fel efengyl defnyddiol i amheuwyr.

Mae ‘Darlith Yr Athro Mmaa’ yn nhraddodiad dychanu athronyddol, yn null Voltaire a Swift, ac yn enghraifft anarferol o ryddiaith ysgafn a dofn ar yr un pryd, y gellir ei mwynhau ar nifer o lefelau.

Cyhoeddwr
Tusk / The Overlook Press
Cyhoeddwyd
1976
Genre
Ffuglen
Yr iaith wreiddiol
Pwyleg
Y gwreiddiol
Wykład profesora Mmaa (1953)
Cyfieithiadau blaenorol i'r ieithoedd canlynol
Saesneg, Almaeneg, Is-Almaeneg

Ar gael ar ffurf
Clawr meddal
ISBN 978-0879519667
226 tudalen
$ 7,00
Prynu
Clawr caled
ISBN 978-0879510299
226 tudalen
$ 24,50
Prynu