Darn
Darlith Yr Athro Mmaa
Stefan Themerson
Lle y Dechreua’r Athro Mmaa ar ei Ddarlith
“Rwyf wedi ymwrthod yn gyson â’r demtasiwn…” – meddai’r Athro Mmaa; ac wrth iddo siarad gwawriodd arno’n sydyn mai syml oedd y byd, nid cymhleth.
“Y mae wedi fy nharo’n sydyn mai syml, nid cymhleth yw’r byd,” aeth yn ei flaen. “Ond medraf eich sicrhau, ni chaiff hyn unrhyw ddylanwad ar fy narlith, sydd yn ymhel â phwnc cymhleth a manwl. Digon posib bod fy nheimladau personol yn wrthrych archwiliad seicolegol, yn thema cerdd, neu’n sail i system athronyddol. Eto, nid seicolegydd sydd o’ch blaen, na bardd, nac athronydd; o’ch blaen ceir gwyddonydd sydd yn ymchwilio nid i’r hyn sy’n deillio o ddatguddiad, nac i’r hyn a gasglwyd yn empiraidd o fyd natur.”
Nid oedd gan gynulleidfa’r Athro Mmaa unrhyw syniad beth oedd byrdwn ei ddweud. Dechreuodd y myfyrwyr ifanc ar y nenfwd fwmial eu boddhad, cyn cael traed oer. Mud ac amheus oedd y myfyrwyr ifanc ar y llawr. Oherwydd nid oedd y rhain wedi dod i benderfyniad eto ynghylch natur safbwyntiau gwleidyddol Yr Athro Mmaa, felly sut oedd modd iddynt benderfynu a ddylid dangos cydnabyddiaeth neu sgyrnygu?
Ni fyddai’r croniclwr diduedd ei hun yn abl i ddweud yn wrthrychol beth oedd Yr Athro Mmaa mewn gwirionedd. Gall nodi yn unig yr ystyrir Yr Athro Mmaa yn ddoeth gan y rhai hynny a oedd yn cael eu hystyried yn glyfar gan y rhai oedd yn cael eu hystyried yn araf gan y rhai yr oedd Yr Athro Mmaa yn eu hystyried yn ffyliaid. Ar yr un pryd, serch hynny, braidd yn rhamantaidd y’i hystyriwyd gan y rhai hynny a gaethai eu hystyried yn wallgof gan y rhai hynny a gaethai eu hystyried â chwilod yn eu pennau gan y rhai hynny a gaethai eu hystyried yn wyddonwyr go iawn ganddo.
“Yn y sylwadau agoriadol hyn,” aeth Yr Athro Mmaa yn ei flaen, “hoffwn ddyfynu’r frawddeg ganlynol:
‘Yr wyf wedi ymwrthod yn gyson â’r demtasiwn i ymestyn hud realaeth trwy ychwanegu rhyfeddodau sydd o bosib yn atyniadol ond sydd yn anwir; o fod yn hŷn, nid yw’r demtasiwn mor gryf; oherwydd, dipyn wrth dipyn, mae’r blynyddoedd yn dysgu pob morgrugyn gwyn mai gwych yw’r gwirionedd noeth.’
“Yn y dyfyniad hwn, onid yw eich synnwyr arogli craff yn clywed achlust nid yn unig o ddeallusrwydd ond ymarfer teithio meddwl gwyddonol? Ac eto, nid wyf wedi newid ond un gair. Y gair y bu i mi ei gyfnewid am y gair MORGRUGYN GWYN.
“Yn wir, gan ddifrifoli yn awr, rhaid i mi ddatgelu i chi mai nid tan forgrugyn gwyn vibrissa y datguddiwyd y Frawddeg yr wyf newydd ei dyfynnu i chi. Na! O ddifrif yn awr, rhaid i mi gyhoeddi wrthych iddi ddod o un o bedwar eithaf anifail – anifail sy’n perthyn i rywogaeth sydd yn wrthrych ein hymchwilio cyfredol. Ymhellach, rhaid i mi ychwanegu mai brathiad bychan o gasgliad mawr o frawddegau ydyw, oll yn ymwneud â dim byd llai na Ni, *ein rhywogaeth’, ein bywyd, ein cymdeithas.
“Rwy’n cyfaddef bod y gwaith hwn yn orlawn o wallau, anwireddau, straeon dros ben llestri ac anghredadwy amdanom. Ond onid gwych o beth yw’r ffaith bod yr holl wallau, anwireddau a’r ffantasïau hyn wedi eu bwyta mor effeithiol a’u dadelfennu gan ein hybarch gydweithiwr a’n darlithydd Mr Themeris Stefannos? Rwy’n ail-adrodd ‘eu bwyta’! Oherwydd, fel yr ydych efallai wedi clywed, mae’r anifeiliaid yr ydym yn eu hastudio yn arfer cofnodi yr hyn y gellid cyfeirio ato fel eu meddyliau, nid yn eu sylwedd cydgysylltiol, nid yn fewnol, ond y tu allan i’w pilynnau corfforol, ar haenau o seliwlos. Ac, fel mae’n ddigon posib y gwyddoch, mae seliwlos yn sylwedd sydd, diolch i’r protosoa sydd wedi eu meithrin yn stumogau ein llaethfamau, yn peri dim mymryn o anhawster i ni wrth eu treulio. Cyfraniad bythgofiadwy Mr. Stefannos i wyddoniaeth oedd (1) yr aberth a wnaeth o’i stumog ei hun a thrawsblannu yn ei lle un a dorrwyd o laethfam, ac, (2) rhoi ar waith y dull o dreulio’r haenau seliwlos hyn, a rhoi ar gof y rhwystrau blas annifyr y daeth ar eu traws ar naill ochr pob haenen.
“Ond, byddwch yn sicr o holi, a yw hi’n werth yr holl lafur hwn dim ond er mwyn dehongli yr hyn sydd, yr honnaf, yn wallau, yn anwireddau a ffantasïau niferus? Atebaf: Ydy, yn sicr! Oherwydd, os y mynega unrhyw un farn ar bwnc yr ydym yn digwydd ei adnabod yn well, mae ei gamgymeriadau yn ffynhonnell gwybodaeth nid ar y pwnc ei hun ond ar yr un sydd yn traethu ar y pwnc. Yn y modd hwn, mae’r haenau seliwlos y mae Mr. Stefannos wedi eu bwyta, ac sydd yn ymhel â’n rhywogaeth ni forgryg gwynion, wedi bod yn ffynhonnell wybodaeth ar eu hawdur, ar y rywogaeth homo. Dyna natur perthnasolrwydd pethau’r byd hwn.”
Yr oedd y gair “perthnasolrwydd” yn poeni’r gynulleidfa braidd. Yr oedd yn air peryglus. Ni wyddau neb beth oedd ei ystyr, ond yr oedd yn eglur i bawb ei fod yn tanseilio cysyniadau sefydledig a’r awdurdodau cydnabyddedig. Tybed a oedd aroglallanau Yr Athro Mmaa wedi eu trwytho ag arogl perthnasolrwydd a dreiddiodd gymdeithas mor gyfrwys gan yr Athro Albert, a ddeilliau o’r llinach brenhinol Einfuss-Dreistein? Yn y modd hwn nid syndod oedd bod rhai aelodau o’r gynulleidfa yn troi eu teimlyddion yn bryderus i gyfeiriad y cwnstabl yr oedd modd synhwyro ei ben, wedi ei arfwisgo, a’i gyrn yn codi gwrychyn, ym mhen draw’r coridor. Nid oedd gan y cwnstabl yr hawl i groesi trothwy y Brifysgol, a oedd yn llawenhau yn ei hanibyniaeth; ond pwy a wyr nad oedd wedi ei orchymyn yn barod i gadw’r gynulleidfa yn ôl wrth iddynt adael y neuadd, ac i chwilota eu cynnwys deallusol? Mi fyddai hynny’n fater difrifol, oherwydd gallai arwain at arestio corfforol, neu, yn waeth, at arestio economaidd, ac amddifadu rhywun o’i laethfam. Yn anorfod marw o newyn fyddai canlyniad hynny. Felly ceisiai’r rhai mwyaf ofnus anwybyddu sylwadau mwyaf peryglus, yn eu barn hwy, Yr Athro Mmaa, er mwyn osgoi eu sodro yn eu cof a chael eu cymrodeddu gan eu presenoldeb yn wyneb archwiliad o’u penau gan yr heddlu.
Aeth Yr Athro Mmaa yn ei flaen, yn anymwybodol o’r hyn a oedd yn digwydd o’i gwmpas:
“Nid wyf yn gallu dweud rhyw lawer wrthych am y gwaith y bu i Mr Stefannos ei dreulio, onibai ei fod yn perthyn i’r rhywogaeth homo, ac mai ei enw yw unai Maurice Maeterlinck (hynny ydi, os derbyniwn ddadl Stefannos y dylid treulio’r haenau seliwlos yn lletraws o’r chwith i’r dde) neu Kcnilreteam Eciruam (os derbyniwn ddadl Dr Nosnafets, sydd, ar sail dogfennau seliwlos eraill, o’r enw’r Torah, Mishnah a Gemara, o’r farn y dylid eu treulio oll o’r dde i’r chwith).
“Yn ffodus, nid oes rheidrwydd arnom ddatrys y broblem gymhleth hon ar hyn o bryd, oherwydd mae’r enw Maeterlinck (neu Eciruam?) yn un o nodweddion nid holl rywogaeth homo ond un yn unig o’i niferus deuluoedd. Er mwyn gwneud hyn yn eglurach, rwyf am eich hatgoffa fod pob unigolyn â’r gallu a’r hawl i greu epil yn y gymdeithas homo, nid dim ond y brenin a’r frenhines. O ganlyniad, yn y rhywogaeth homo ceir nifer dirifedi o deuluoedd, bob un â’i enw ei hun. Yn ôl Mr. Stefannos, enw teuluol yw Maeterlinck, ac enw unigolyn yw Maurice, trwy ddull hygro-acwstig wedi ei daenu yn seremonïol ar yr enghraifft, i’w wahaniaethu oddi wrth enghreifftiau eraill o’r un teulu. Yn ôl y Dr Nosnafets, ysywaeth, hyd yn oed os derbyniwn yr egwyddor o dreulio o’r chwith i’r dde, enw teuluol yw Maurice, ac enw enghraifft penodol yw Maeterlinck.
“Yr wyf yn anwybodus o’r safbwynt a goleddir gan y Dr. Siremeht, sydd, o nodi’r haenen y mae wedi ei threulio, a gafwyd o chwarenlif rhyw gynrhon Bombyx mori, yn ystyried mai’r ffordd gywir i dreulio pob dogfen o’r math hwn yw o’r top i’r gwaelod. Yr wyf yn anwybyddu’r safbwynt hwn, oherwydd, fel y nododd y Dr. Themeris, ni lwyddodd y Dr. Siremeht i ddarparu diffiniad digonol i ni o’r hyn yw ei dop a’r hyn yw ei waelod.”
Rhoddodd Yr Athro Mmaa y gorau i draethu.
Daeth seiffon benywaidd tuag ato a gwasgodd Yr Athro Mmaa ei stumog, gan ddrachtio fymryn. Yna aeth yn ei flaen…
Cyfieithwyd gan Sioned Puw Rowlands