schwob_logo

schwob

marcel
The World's Best Unknown Books

Stefan Themerson

Gwlad Pŵyl / Lloegr

Un o awduron ac artistiaid mwyaf gwreiddiol a phryfoclyd yr iaith Bwyleg.

Stefan Themerson (Płock, Gwlad Pŵyl, 1910 – Llundain, 1988). Yn y 30au gyda’i wraig, Franciszka Themerson (artist a chynllunydd graffeg), gwnaeth Stefan nifer o ffilmiau arbrofol gan ddyfeisio technegau newydd ar gyfer tynnu lluniau. Yna fe symudodd y ddau i Baris, ac yn hwyrach i Lundain. Yn 1940-42, yn ystod ei gyfnod yn byw yn Ffrainc, ysgrifenodd ei nofel gyntaf, ‘Darlith Yr Athro Mmaa’. Yn 1948 sefydlodd y ddau dŷ cyhoeddi, sef gwasg Gaberbocchus. Yn ystod cyfnod o 31 mlynedd cyhoeddwyd dros 60 o gyfrolau ganddynt, gan gynnwys gweithiau gan Alfred Jarry, Kurt Schwitters a Bertrand Russell. Yn y 60au a’r 70s, cyhoeddwyd gweithiau Stefan gan y wasg hefyd, er enghraifft ei nofelau athronyddol, llyfrau plant, barddoniaeth, ysgrifau, a libretto a cherddoriaeth ar gyfer opera. Cyfieithwyd ei gyfrolau i wyth o ieithoedd. Moeseg, iaith, rhyddid, urddas dyn a phwysigrwydd moesgarwch oedd ei brif bynciau trafod.

Stefan Themerson

Teitlau'r llyfrau