schwob_logo

schwob

marcel
The World's Best Unknown Books

Stefan Themerson

Gwlad Pŵyl / Lloegr

Un o awduron mwyaf gwreiddiol a phryfoclyd yr iaith Bwyleg.

Stefan Themerson (Płock, Gwlad Pwyl, 1910 – Llundain, 1988). Yn y 30au gyda’i wraig, Franciszka Themerson (artist a chynllunydd graffeg), gwnaeth Stefan Themerson nifer o ffilmiau arbrofol, gan ddyfeisio technegau newydd ar gyfer ffotogramau. Mudodd y ddau i Baris, ac yn hwyrach i Lundain. Yn 1940-42, yn ystod ei arhosiad yn Ffrainc, ysgrifenodd Stefan ei nofel gyntaf, Darlith yr Athro Mmaa. Yn 1948 sefydlwyd tŷ cyhoeddi ganddynt, sef gwasg Gaberbocchus. Cyhoeddwyd dros chwedeg o lyfrau ganddynt mewn cyfnod o 31 mlynedd, gan gynnwys gweithiau Alfred Jarry, Kurt Schwitters a Bertrand Russell. Yn y 60au a’r 70s, cyhoeddwyd llyfrau Stefan gan Gaberbocchus, er enghraifft ei nofelau athronyddol, ei lyfrau i blant, barddoniaeth, ysgrifau a libretto gyda cherddoriaeth ar gyfer opera. Cyfieithwyd ei lyfrau i wyth o ieithoedd. Moeseg, iaith, rhyddid a pharch oedd y pynciau yn agos at ei galon.

Teitlau'r llyfrau