Darn
Sut y Deuthum i Adnabod Pysgod
Ota Pavel
Roedd y tri ohonom ni fechgyn wrth ein boddau yn mynd i gefngwlad castell Krivoklat. Wyddwn i ddim pam yr adeg honno, ond heddiw, gwn yn iawn. Roedd Papa yn deall. Hyd yn oed bryd hynny, gwyddai na fyddwn i fyth eto yn treulio wythnosau bwy gilydd mewn bwthyn lle mae’r bara’n crasu yn y popty a’r menyn yn cael ei gorddi, er y byddwn efallai, rhyw ddydd, yn gweld rhodfeydd Paris a chrafwyr awyr Efrog Newydd. Gwyddai y byddai, rhyw ddydd, geir yn parcio o flaen y bythynod hyn a setiau teledu yn wincian y tu mewn, ac y byddai hen goffi du sâl yn cael ei gynnig law yn llaw â bara gwelw.
Amser yn ôl, darganfu Papa yr ardal hon trwy ddilyn ei drwyn. Yn ôl yn y tridegau byddai’n pasio heibio’r castell gyda’n gyrrwr, Tonda Valenta, ac yn dilyn y ffordd droellog i’r gorllewin ar hyd glanau’r afon Berounka. Yn y dyddiau hynny byddai penhwyaid maint crocodeilod yn nofio yno, ac yn chwyn y dŵr bâs rowliai pysgod dŵr croyw tew, mor fawr â logiau tân. Byddai Papa yn sylwi ar bopeth ac yn bwrw ymlaen i dafarn ochr ffordd. Dyna lle treuliasom ein tymhorau gwyliau cyntaf. Ond nid dyna lle’r oeddem yn dymuno bod.
Er bod Mrs Frankova, gwraig hardd a dymunol, yn coginio goulash blasus a chawl bol mochyn roedd hi’n llawer rhy stwrllyd yno ar y penwythnosau. Byddai criw o bob math, yn grwydrynod, yn ddihirod, yn amaethwyr, yn creu cymaint o stŵr yn y dafarn honno ag yn y gorllewin gwyllt. Ar y dechrau byddai Mama yn gyrru Papa i ofyn i’r criw hwn gadw llai o sŵn, ond rhoi’r ffidil yn y to wnaeth hi’n o fuan. Ymhen dim o dro wedi iddo fynd atynt i’w dwrdio ynghanol eu caneuon, oedd yn lladd ar fileindra bywyd, neu’n canu clodydd hyfrydwch byw yn yr Yukon heb wraig, byddai llais melfedaidd Papa yn ymuno â nhw. Byddem ni blant, y treuniaid, hefyd yn clywed sŵn yr unig offerynnau i Papa erioed eu meistroli – brwsh a chaeadau sosbenni wedi eu benthyg gan Mrs Frankova. Yn y bore byddai Mama yn dod o hyd iddo, dal yn chwil, wrth y ffynnon, yn chwarae caneuon sentimental ar ei grib, am Kladno yn ei düwch.
Yr oedd rhai pobl, megis Bambas y crwydryn, yn byw yn y rhan honno o’r wlad. O wanwyn tan y gaeaf, nid gweithio y byddai ond pysgota ger Craig y Diafol. Fel nad oedd ar lwgu byddai’n sugno pum siwgr lwmp o sach yn ara bach – yr hyn a fyddai’n weddill ers ei joban olaf yn ystod y gaeaf. I mi, bywyd cyfareddol oedd bywyd Bambas. Hyd yn oed yn hwyrach ymlaen, pan fyddai’r rhan fwyaf o blant yn ysu i fod yn awduron neu beilotiaid, Bambas oeddwn i am fod. Hen gwt oedd ei gartref a gorchuddiai ei hun â chroen carw darniog. Gwyddai sut i ddal pysgod fel dwn i ddim be; gwyddai sut i wneud yn gyfreithlon hefyd, ond fel arfer, mewn ffyrdd anghyfreithlon y byddai wrthi. Ni fyddai Mama’n bles pan fyddwn i’n cadw cwmni i Bambas. Roedd yn poeni y byddai’n f’arwain ar gyfeiliorn. Yn anffodus, ni lwyddodd.
Ond rwy’n crwydro. Dyma droi’n ôl at Papa a ninnau. Ar ôl noson wyllt yn y dafarn, bu rhaid i Papa ddod o hyd i ffermdy ar ein cyfer. Fe’n llwythwyd i gwch, a hwyliasom i dŷ bychan yng nghysgod Branov. Y gŵr yng ngofal y fferi, Karel Prosek, a’i fwstash fel Hitler, oedd piau’r bwthyn hwn a treuliasom nifer o dymhorau gwyliau hapus yno.
Roedd yn y bwthyn bopty go iawn ar gyfer popi bara, seler yn llawn llaeth, menyn a llaeth enwyn, ysgubor lle’r oedd buwch, ochr bryn yn datws ar ei hyd; roedd yno goedlannau yn llawn madarch a chwmwl o bysgod i’w gweld fan hyn a fan draw yn nŵr clir yr afon, a chip ohoni i’w gweld o’n ffenest. Dyma oedd paradwys; y math o baradwys y byddai Mr Werich ac yn ddiweddarach, Mr Matuska, yn arfer canu amdano. Byddai modd i Papa hyd yn oed rydio’i ffordd i ganol môr o gwrw yn Anamo, y dafarn ar y groesffordd. Diolch i ddyfeisgarwch diwyd Karel Prosek a phres Papa, trawsnewidiwyd y bwthyn hwn yn un o fythynod mwyaf bras Luh. Roedd y seler, er enghraifft, yn llawn dop o botiau cerrig yn dal pysgod wedi eu piclo mewn finegr a nionnod; byddai gafael yn un o’r pysgod hyn, a’r sudd yn rhedeg dros fy mysedd a darnau’n dod yn rhydd, yn ddigon i fy ngyrru i berlewyg. Cafwyd potiau o gig carw wedi ei fwydo hefyd. Plethiadau hir o selsig Prâg o Maceska yn hongian o’r nenfwd, jygiau o hufen a chaniau o laeth yn sefyll ar lawr. Ac mi roedd yna fara newydd ei grasu a theisen bob tro. Prynodd Papa i ni bêl droed go iawn – un felen. Roeddem yn chwarae pêl droed ar y darn tir agored, ac o’r chwaraewr recordiau a oedd yn rhaid ei weindio ac a safai yn ffenest ein ystafell, deuai:
Tu ôl i’r olwyn yn gyrru’n ein blaenau
Rywle yn y pellter mae pen draw’n taith
Dim ond cyfansoddiad cryf all orchfygu
Perygl milltiroedd maith.
Stociodd Karel Prosek gig carw o goedwig Krivoklat. Roedd hynny’n ddirgelwch. Oherwydd am gryn amser wyddai neb sut y llwyddai. Wrth gwrs roedd gwaed potsiwr wedi pwmpio trwy gorff Prosek ers ei eni. Roedd ei Daid yn enwog am botsian mewn steil go iawn. Un diwrnod, bargeiniodd y gallai lechian y carw cryfaf o Krivoklat, heibio’r orsaf heddlu’r awr ginio. Enillodd y fargen, trwy osod y carw mewn arch a’i gyrru mewn hers! Rhyw dro arall, roedd mam Prosek wedi siglo carw mewn crud tra roedd yr heddlu yn chwilota’r tŷ. Tydi’r ‘moch’ byth yn anghofio’r direidi hyn, oherwydd roedd pawb yn clywed amdanynt, ac roedd Karel yn ddigon ciwt i wybod na fyddai fyth yn llwyddo i danio’r un ergyd eto, felly taflodd ei wn i’r afon Berounka uwchben y llifddorau.
Cyfieithwyd gan Sioned Puw Rowlands