Llawer Mwy Na Physgota
Sut y Deuthum i Adnabod Pysgod Ota Pavel
Cyfieithiad Jindriska Badal a Robert McDowell
Casgliad anarferol o straeon am blentyndod arbennig yn ystod cyfnod meddiannaeth y Nazïaid. Un o hoff glasuron llenyddiaeth Tsiec.
Cyfrol chwerwfelys am dyfu i fyny … casgliad sy’n dawel bach yn gafael ynddom.
Kirkus Reviews
Ceir wyth stori yn y gyfrol hon yn llawn atgofion am blentyndod hapus cyn y rhyfel a goroesiad chwerw teulu cymysg Iddewig yn ystod meddiannaeth yr Almaenwyr. Tad yr awdur, Leo Popper, yw’r prif gymeriad, a cheir ei hanes yn mwynhau anturiaethau carwriaethol, synnwyr digrifwch a’i gariad at bysgod a dŵr yn gyffredinol. Derbyn yw agwedd Mam Pavel at ei gŵr. Gallai ei ewythr, Prosek, droi ei law at unrhywbeth, ac roedd yn botsiwr wedi cysegru ei hun i diriogaeth naturiol Krivoklat ac afon Berounka. Mae iaith di-addurn Pavel yn addas ar gyfer cynnwys tyner y straeon hyn, sy’n ailgreu ei blentyndod. Ymhlyg yn y tynerwch a’r cysur a geir yn y straeon mae isgerrynt sy’n aflonyddu ac yn llorio popeth yn y pendraw. Ar yr olwg gyntaf, clytwaith o atgofion plentyndod a gawn, ond mae’n wir i ddweud mai dyma un o’r gweithiau llenyddol mwyaf pwerus sy’n delio gyda’r dadrithiad a ddaw yn sgil tyfu’n oedolyn, gyda drama’r rhyfel yn gefnlen i’r cyfan. Mae’n cyrraedd at ddyfnderoedd yr ymysgaredd mewn ffordd sy n sicr o adael ei farc ar bob darllenydd.