Ota Pavel
Y Weriniaeth Tsiec
Awdur Tsiec yw Ota Pavel (1930–1973; ganwyd gyda’r enw Otto Popper). Bu hefyd yn newyddiadurwr, ac roedd yn nodedig am ei nofelau hynangofiannol a’i straeon byrion.
Daeth gyrfa Pavel fel newyddiadurwr chwaraeon i ben pan ganfuwyd ei fod yn dioddef o gyflwr seiciatryddol yn ystod Gemau Olympaidd Gaeaf 1964 yn Innsbruck. Disgrifiodd y cyfnod yn ei gyfrol Jak jsem potkal ryby (Sut y Deuthum i Adnabod Pysgod). Yn 1966 fe’i gorfodwyd gan ei salwch i ymddeol ac i dreulio cyfnodau yn derbyn triniaeth mewn ysbytai meddwl. Y cyfnod anodd hwn yn ei fywyd oedd hefyd yr un mwyaf creadigol iddo, pan gyfansoddodd ei gasgliadau cryfaf a mwyaf telynegol. Bu farw o drawiad ar y galon yn 1973.
Mae dylanwad ei brofiadau yn blentyn a’r Ail Ryfel Byd ar ei waith. Sensorwyd ei gyfrolau yn drwm gan y gyfundrefn Gomiwnyddol.
Cyhoeddiadau pwysicaf Pavel yw Smrt krásných srnců (Marwolaeth Carw Hardd, 1971) a Jak jsem potkal ryby (Sut y Deuthum i Adnabod Pysgod, 1974). Fe’u cyhoeddir yn aml fel un gyfrol.