Darn
Cymeriad
Ferdinand Bordewijk
IEUENCTID
Peth digon rhwydd oedd i’r beili A. B. Dreverhaven ddilyn symudiadau’r fam. ’Roedd yn rhan o’i waith, dilyn pobl, ac ’roedd yn un da yn ei waith. ’Roedd yn gwybod ymhen ychydig ddyddiau fod y fam yn byw ar un o’r strydoedd tlawd yn ymyl y lladd-dy. Nid Joba oedd hi bellach, ond Mrs. Katadreuffe, hyd yn oed iddi hi’i hun.
Daeth llythyr iddi. ’Roedd cyfeiriad swyddfa Dreverhaven wedi’i brintio ar yr amlen. Dim ond hanner dalen o bapur a oedd yn yr amlen a’r gair Memorandwm wedi’i brintio ar y brig mewn llythrennau mawr ac wedyn y cyfeiriad. ’Roedd y nodyn wedi’i gyfansoddi o ddyddiad a phum gair:
‘Pryd ’dyn ni am briodi?’
’Doedd dim llofnod. ’Roedd y llythrennau’n ddu, yn arysgrifol, yn anferthol. Fe rwygodd e’n rhacs. Ar yr un diwrnod daeth y postmon ag archeb bost iddi am gan gildern. Ar y bonyn ’roedd yr un cyfeiriad, yn yr un ysgrifen. Safodd am funud bach yn amhenderfynol, ond ’doedd hi ddim yn un i fod yn amhenderfynol yn hir. ’Roedd hi wedi ystyried rhwygo’r archeb bost yn ddarnau hefyd, ond ’wnaeth hi ddim ond croesi allan y cyfeiriad. ‘Dychweler at yr anfonwr’, ysgrifennodd, a’i roi yn y blwch post.
Dyn heb galon oedd Dreverhaven yn yr ystyr ei fod yn ddyn dideimlad. ’Doedd hi’n mennu dim arno nad oedd wedi cael yr un gair yn ateb a bod ei arian yn cael ei ddychwelyd. Newidiodd ei archeb bost yn ôl yn arian yn ddiffwdan. Ond nid dyn heb synnwyr o gyfrifoldeb oedd e, ’roedd ganddo ewyllys gref a hefyd, ar ryw ystyr gyfyngedig, synnwyr o ddyletswydd. Ymhen mis cafodd Mrs. Katadreuffe lythyr eto: ‘Pryd ’dyn ni am briodi?’ Ac archeb bost, am hanner can gildern y tro hwn. Gwnaeth hi’r un peth ag e â’r tro o’r blaen.
Ysgrifennodd Dreverhaven y memoranda hyn chwe gwaith i gyd bob mis yn brydlon. ’Chafodd e byth ateb. Parhaodd brwydr yr archebion post hanner can gildern am flwyddyn gron. Y deuddegfed tro ysgrifennodd hi ar ei thraws: ‘Gwrthodir am byth’. P’un ai dyna oedd y rheswm ai peidio, ’roedd yr ymryson wedi dod i ben. Hi oedd wedi trechu nawr, ond ychydig o arwyddocâd a oedd i’r boddhad hwnnw. Daliai ryw ddirmyg ati’i hun ar hyd ei hoes, nid teimlad o israddoldeb, ond yn hytrach casineb trahaus tuag at ei rhyw ei hun yn gyffredinol. Yn y pen draw, ’roedd hi’n gweld bai arni hi’i hun yn fwy nag arno fe, am ei bod wedi ildio; ’roedd hi’n gweld bai arni hi’i hun am fod yn fenyw. Er ei bod hi’n ymwneud â’r cymdogion, mewn ffordd ddiogwydd a gyda ffurfioldeb y tlodion parchus, ’doedd hi ddim, serch hynny, yn boblogaidd iawn ymysg merched y gymdogaeth, am ei bod yn lladd ar ei rhyw ei hun mor aml. ’Roedd ei barn ddidrugaredd ar wendid merched yn adnabyddus ac yn peri syndod. ’Roedd hi’n byw mewn ffordd anymwthgar, ond gallai fynegi’i dirmyg yn amrwd weithiau.
– ‘’Dan ni ferched yn dda i eni plant ac affliw o ddim byd arall.’
’Roedd hi’n apelio at chwaeth y dynion. Golwg hen a rhychlyd oedd arni, â dwy linell o chwerwder dwys am ei cheg, ’roedd y dannedd a fu gynt yn hardd ac yn wydn wedi’u difetha’n gynnar gan yr enedigaeth, a rhoddai’r argraff, a hithau’n fach ac yn gefnsyth, o fod yn fregus. Ond ’roedd ei llygaid tanbaid, yn ôl pob golwg, yn denu’r dynion serch hynny, ’welen nhw ddim o’r rhychau, y croen crebachlyd, y gwallt, a oedd wedi’i drin yn ddigon trwsiadus ond yn ddiolwg o fod wedi colli’i liw.
Cwrddodd un tro yn nhŷ ffrindiau â gweithiwr cwch craen. Hwyliai mewn craen nofiol enfawr, câi ei dynnu ar raff ddur o’r naill ddoc i’r llall, ac yntau’n byw yn ystafell yr injan. ’Roedd yn un o’r cofgolofnau byw hynny sy’n nodweddiadol o weithwyr Rotterdam ar eu gorau, boi â’i gnawd fel gwenithfaen, yn gefnllydan, wedi’i borthi’n drwm, ei lais yn taranu’n ddwfn a’i osgo’n drwm, boi o fath nad yw’n cael ei fagu ond yn Holand ac o’r dŵr. ’Roedd e rywfaint yn hŷn na hi, rhaid ei fod, ’roedd hi’n meddwl, tua’r un oed â Dreverhaven. Ei enw oedd Harm Knol Hein.
’Roedd e am fynd â hi adref ag e, a phrin ’roedden nhw wedi mynd allan drwy’r drws pan ofynnodd iddi on’d oedd ganddi ddim awydd priodi. Bu’n sôn wrth y cwmni am ei fywyd ar y craen. ’Roedd hi wrth ei bodd â’r môr. Yma yn y dref fawr ’roedd hi mor bell o’r rhwydwaith anferth o ddociau, yn y fan hon gallai weithiau ddrewi mor ofnadwy o esgyrn a pherfeddion, ac yn enwedig o waed yn berwi ar dir y lladd-dai. Oedd, ’roedd hi’n hiraethu am y môr a’i awel iach.
Aeth ymlaen. Gallai hi fyw ar y craen, a phetai’r bòs yn gwrthwynebu, yna cymerai ystafell iddi ar y glannau, ond yn ymyl y dociau o hyd, wrth gwrs. Na, ’doedd dim byd i boeni amdano, gallai drefnu’r peth yn iawn.
– Mi feddylia’ i amdani, meddai hi wrth iddyn nhw ymadael â’i gilydd.
Dim ond i fod yn garedig â’r gweithiwr craen y dywedodd hynny. ’Roedd yn ei hoffi a ’doedd hi ddim am ei wrthod yn blwmp ac yn blaen. Ond ’roedd hi wedi gwneud ei phenderfyniad yn syth, ’fyddai’r peth ddim yn gweithio. Hyhi’r hen gelain fel yr oedd hi a bachgen iach fel hwnnw, beth ’roedd yn ei weld ynddi? Na, ’fyddai’r peth ddim yn gweithio. Gofynnodd i’r ffrindiau am ei gyfeiriad, ac ysgrifennodd i’w wrthod mewn ychydig o eiriau. O dan yr arwyneb yn y gwrthodiad hwn gorweddai dirmyg tuag ati hi ei hun ac at ryw benyw’r byd i gyd.
Gofalai’n dda am ei mab, ’roedd yn fam ddywedwst, lem, ddi-ildio a chaled, ond yn un dda. ’Allai hi ddim mynd allan i weithio gymaint o bell ffordd ag o’r blaen. Hefyd, ’roedd y plentyn yn gofyn am dipyn o’i hamser, ’doedd e ddim yn gryf, daliodd frech yr ieir a’r frech goch a phob math o glefydau plant, a gyda hynny byddai’n gecrus ac yn ddiamynedd. ’Roedd yn rhaid iddi ei adael am hanner y diwrnod gyda chymdogesau, lle câi ei fagu yn yr haid o blant bach, a ’doedd e ddim yn cael y fagwraeth yr oedd hi’i hun yn ei ystyried yn iawn, felly – a hithau’n credu mewn disgyblaeth gref – byddai hi’n galetach arno ar ôl dod adref hyd yn oed nag oedd yn ei natur.
Bob yn dipyn, aeth y blynyddoedd cyntaf yn anos, bu’n rhaid iddi symud i fyw i glos bach ymhlith y bobl dlotaf oll. ’Doedd y tyllau bach o dai ddim yn lân yn yr haf, dyna oedd y poendod mwyaf iddi hyd yma. Wedyn daeth dechrau’r rhyfel mawr, cododd prisiau ac ’roedd bwyd yn brin. Blynyddoedd du iawn iddi hi oedd 1917 a 1918.
’Dyw’r bachgen ddim i gael dioddef oherwydd hyn, dywedai wrthi’i hun, mi gaiff y gorau o bob dim. Ond ’doedd dim cymaint o faeth hyd yn oed yn y gorau ag a fyddai yn y pethau cyffredin adeg heddwch.
Byddai o bryd i’w gilydd yn mynd i ryw ychydig o ddyled yn ystod y blynyddoedd hyn, ’allai hi ddim bob amser dalu’r rhent ar ddydd Llun, ond byddai hi dro ar ôl tro yn brwydro’i ffordd allan ohoni, am ei bod yn anghyffredin o ddarbodus. ’Doedd ganddi ddim dillad i fynd allan ynddyn nhw. Ond bod ei dillad gwaith a’i ffedogau heb eu rhwygo ac yn lân ’roedd hi’n fodlon. Cofiai’r Katadreuffe bach yntau’r blynyddoedd hyn fel rhai du ofnadwy. Eisteddai gyda’r rhai lleiaf o’r plant carpiog yn nosbarth isaf ysgol y tlodion, adeilad mewn stryd gefn dywyll, y math o stryd sy’n rhoi’r argraff na allai byth fod yn gynnes yno. Ac ’roedd yr ysgol yn gwneud i rywun feddwl yr un peth. ’Roedd yr adeilad yn ddychrynllyd o fawr, llaith, ogofaidd a thywyll, ond nid hynny na’r plant carpiog eraill oedd y gwaethaf, – y gwaethaf oedd y dorf o wehilion o’r dosbarthiadau uwch. Bechgyn yr un fath â’r rhai a oedd yn byw yn y clos, a fyddai’n malu goleuadau stryd, a regai fel meddwon mewn oed, a arhosai am y rhai bach am y gornel wrth fynd allan o’r ysgol er mwyn eu bwlio nhw.
Un tro daeth y Katadreuffe bach adref â’i geg yn waed i gyd. ’Roedd rhes gyfan o’i ddannedd uchaf wedi cael eu bwrw allan, ond ei ddannedd cyntaf oedden nhw, drwy lwc, ac ’roedden nhw eisoes wedi dechrau dod yn rhydd.
Yng ngwanwyn 1918, pan oedd yn y dosbarth uchaf, daeth dau heddwas mewn helmedau un dydd Sul a gyrru braw ar y clos, gan ei gynnwys e. Ond nid fe oedd eu targed nhw. Chwilion nhw drwy bob tŷ, aethon nhw â phedwar bachgen tal a oedd wedi dwyn o gert bara gefn golau dydd y diwrnod cynt. Cafwyd hyd i bum torth gyfan a oedd yn dal i fod mewn sach fras, ’doedden nhw ddim yn agos at fod wedi mynd drwyddo i gyd.
’Roedd ei fam wedi’i gadw rhag y gwehilion gymaint y gallai, felly wrth gwrs byddai’n cael ei hambygio a’i guro pryd bynnag y byddai cyfle. Cafodd foddhad mawr sbeitlyd nawr o weld pedwar o’r taclau hynny’n cael eu harestio.
’Roedd parch yn y gymdogaeth at ei fam fach eiddil. Gwyddai hi’n iawn fod hynny oherwydd ei llygaid a allai fod mor danllyd heb fod angen help yn aml gan ei llais a oedd yn finiog fel llafn rasel. Dysgodd y Katadreuffe bach yn raddol hefyd roi’i ofn heibio a chodi’i ddyrnau’i hun. Teimlai’n un â’i fam yn eu hagwedd amddiffynnol tuag at y baw. ’Roedd ganddo ei llygaid hi, gallen nhw fflamio’n union yr un fath, ’roedd yn un byr ei dymer. Unwaith fe giciodd fachgen mwy. Ciciodd yr un mawr fel mellten ym man gwannaf ei fol. Syrthiodd yr ymosodwr am yn ôl ar ei hyd, yn anymwybodol, yng nghanol y stryd yn y clos, lle câi ei weld gan bawb.
’Roedd Mrs. Katadreuffe wedi gweld y peth. ’Wnaeth i mo’i gosbi, ond ’roedd yn deall ei bod yn rhaid iddyn nhw symud tŷ nawr. Ac fe aeth hynny’n iawn. Cliriodd hi’r ystafell yn y nos. Arhosodd berfa drol yn ymyl y gât am y celfi diddim. Cariodd y symudwr ei hun yr eiddo allan o’r tŷ yn dawel. Digwyddai’n aml fod tenantiaid yn symud dros nos. Weithiau byddai am fod gwraig yn gadael ei gŵr iddo ddod adref i ystafell wag, bryd arall mater syml o ddyledion rhent oedd hi.
Ymadawodd Mrs. Katadreuffe heb ddyled. ’Roedd hi wedi lapio’r rhent yn dwt mewn darn o bapur newydd a’i osod ar y silff ffenestr ar ben y cerdyn rhent lle nad oedd llofnod wythnosol y casglwr rhent yn eisiau dim unwaith. Cerdyn rhent godidog hollol oedd e, bron wedi’i lenwi’n gyfan gwbl, heb ddim un bwlch, cerdyn na allai llawer yn y clos fod wedi dangos ei debyg.
Cyfieithwyd o’r Is-Almaeneg gan George Jones