Ferdinand Bordewijk
Yr Iseldiroedd
Dechreuodd Ferdinand Bordewijk (1884-1965) ei yrfa del awdur mewn genre anarferol ar gyfer yr Iseldiroedd - tri chasgliad o Fantastische vertellingen (‘Straeon Rhithiol’).
Bu’r dair nofel fer a gyhoeddwyd yn ddiweddarach, Blokken (1931), Knorrende beesten (1933) a Bint (1934) yn ddigon i gadarnhau ei enw fel awdur rhyddiaith arbennig o wreiddiol, gyda’u brawddegau byr a’u harddull moel, siarp. Yn 1957 derbyniodd wobr Constantijn Huygens yn gydnabyddiaeth am ei gyfraniad i lenyddiaeth.