schwob_logo

schwob

marcel
The World's Best Unknown Books
04 04 2013

Ochr dywyll perthynas rhwng tad a mab

Cymeriad Ferdinand Bordewijk

Roedd y rhai a gyfarfu â Ferdinand Bordewijk yn ei ddisgrifio fel cyfreithiwr di-fai a di-nôd. Roedd hyd yn oed ei ychydig gydnabod a oedd yn ei gyfarfod yn breifat yn ei chael hi bron yn amhosibl i ysgogi sylwadau personal ganddo. Pan y’i holwyd am ei waith llenyddol byddai’n trafod awdur y gwaith hwnnw yn y trydydd person, fel petai’n sôn am rywun cwbl wahanol.

Nid yw Cymeriad yn ddim llai na champwaith. Darllenais y nofel drachefn ac mae’n parhau’n waith arbennig iawn, yn gwbl berthnasol ddeugain mlynedd yn ddiweddarach.

J.A. Dautzenberg, de Volkskrant.

Gyda’i arddull solet ac angerddol ar yr un pryd, gellid dadlau mai rhoi mynegiant i ddyheuadau nad oedd lle iddynt yn ei fywyd bob dydd y mae Bordewijk yn y nofel hon. Fel cyfreithiwr roedd yn ymwybodol iawn o ganlyniadau ildio i demtasiwn. Cymeriad yw ei nofel fwyaf adnabyddus. Ceir ynddi hanes Katadreuffe, clarc sydd yn ymdrechu i ddringo rhengoedd cymdeithas. Mae’n agor siop dybaco fechan, ond ar unwaith fe’i gwneir yn fethdalwr gan y beili, Dreverhaven o Rotterdam - neb llai na’i dad ei hun. Bob tro mae llwyddiant o fewn cyrraedd, daw ei dad i’w rwystro.

Pan wiredda Katadreuffe o’r diwedd ei uchelgais fawr o ddod yn gyfreithiwr, mae’n gwrthod ysgwyd llaw ei dad: mae’n dadlau na fyddai am dderbyn clod gan dad sydd wedi gweithio yn ei erbyn ar hyd ei fywyd. Yn araf, yn glir, yn gryglyd ond yn dyner, dywed Dreverhaven: ‘Neu weithio drostot’. Mae hon yn stori am ochr dywyll perthynas tad a mab ac ar yr un pryd, yn bortread o ddinas Rotterdam cyn y rhyfel. Mae’r ymgyrchoedd hynny lle mae Dreverhaven yn gwireddu ei enw brawychus, yn hel y tlawd o’u hofelau, yn meddu ar odidogrwydd dychrynllyd, a Bordewijk yn dadlennu ochr frwnt ei gymeriadau, ac yn rhoi cymeriad anthropomorffaidd i dai a lonydd cefn. Ceir arswyd yn llechu drwy’r nofel ac mae iaith Bordewijk - ar wahân i’r adegau ysgafnach - mor ddidrugaredd â’r dihiryn o feiliff sy’n gymeriad na ellir mo’i anghofio.

Enillodd y ffilm Cymeriad a ysbrydolwyd gan y nofel hon wobr Academy am y ffilm dramor orau yn 1998.

Cyhoeddwr
Ivan R. Dee
Cyhoeddwyd
1999
Genre
Ffuglen
Yr iaith wreiddiol
Is-Almaeneg
Y gwreiddiol
Karakter (1938)
Cyfieithiadau blaenorol i'r ieithoedd canlynol
Almaeneg, Hwngareg, Norwyeg, Saesneg, Slofaceg, Tsinëg, Twrceg.
Gwobrau
Yn 1957, derbyniodd Bordewijk wobr Constantijn Huygens am ei gyfraniad i lenyddiaeth.

Ar gael ar ffurf
Clawr papur
ISBN 1566632277
288 tudalen
$ 14.49
Prynu
Clawr caled
ISBN 0941533964
286 tudalen
$ 7.89
Prynu