schwob_logo

schwob

marcel
The World's Best Unknown Books
05 09 2012

Lle daw cydymffurfiaeth a phersonoliaeth ynghyd.

Ar Ymyl Pen Rheswm Miroslav Krleža

Cyfieithiad Zora Depolo

Mae Ar Ymyl Pen Rheswm yn datgelu yr agendor sylfaenol rhwng cydymffurfiaeth ac unigolyddiaeth. Wrth i ynfydrwydd bentyrru ar ben ynfydrwydd, rhagrith ar ben rhagrith, mae rheswm ei hun yn dechrau datgymalu, ac mae’r ffin rhwng y real a’r afreal yn diflannu.

Ar Ymyl Pen Rheswm yw un o nofelau mawr Ewrop yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.

Susan Sontag

Lleolir y stori yn Zagreb. Cynrychiolir ynfydrwydd yn y byd cyhoeddus gan ddyn het uchel, homo cylindriacus: y doctoriaid, y penaethiaid, y deoniaid, y darlithwyr, y milfeddygon, y cyfarwyddwyr-cyffredinol…: y byd swyddogol a phroffesiynol a etifeddodd y wladwriaeth Iwgoslaf gan yr Ymerodraeth Habsbwrgaidd.

Mae dirywiad a chwymp yr adroddwr yn ganlyniad sylw a wnaethpwyd ganddo bron ar hap - sylw o wirionedd syml: bod ymddygiad y Cyfarwyddwr-Cyffredinol Domacinski yn 1918, wrth saethu nifer o werinwyr a oedd wedi tresmasu ar ei dir, yn drosedd ac yn wallgofrwydd. Yn yr hyn a ddilyn, mae’r adroddwr bron yn oddefol tra bod y byd confensiynol yn dod ar ei warthaf gydag arfau achlust a gorddweud, ‘cyngor cyfeillgar’ ac yn olaf, wrth ei roi ar brawf lle mae’r erlynydd, y barnwr a’r cyhoedd yn ei falu’n griau.

Cyhoeddwr
New Directions
Cyhoeddwyd
1976
Genre
Ffuglen
Yr iaith wreiddiol
language hr
Y gwreiddiol
Na rubu pameti (1938)
Cyfieithiadau blaenorol i'r ieithoedd canlynol
Almaeneg, Basg, Ffrangeg, Hwngareg, Is-Almaeneg, Pwyleg, Rwmaneg, Saesneg, Slofeneg, Tsiec.
Adolygiadau
Boston Phoenix (1995)
Gwobrau
Gwobr NIN / Herder

Ar gael ar ffurf
Clawr papur
ISBN 9780811213066
182 tudalen
€ 13,40
Prynu