Miroslav Krleža
Croatia
Miroslav Krleža (1893-1981) yw un o awduron mwyaf blaenllaw yr ugeinfed ganrif yn llenyddiaeth Croatia. Mae ei waith yn cwmpasu barddoniaeth, nofelau, ysgrifau, straeon byrion a dramâu.
Ganwyd Krleža yn Zagreb. Cyhoeddodd ei gerddi a’i ddramâu cynnar cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Drylliwyd ei gamganfyddiadau gan y rhyfel - mae ei ryddiaith chwerw a’i farddoniaeth yn adlewyrchu ei safbwyntiau heddychol.
Gwrthwynebodd Krleža drefn fonarchaidd Iwgoslafia, gan sefydlu Plamen yn 1919, sef cylchgrawn ochr chwith. Gwnaeth y chwyldro Sofietaidd gryn argraff arno a bu dan ddylanwad syniadaeth Marcsaidd, heb i hynny arwain at ddogma. Bu’n aelod o’r Blaid Gomiwnyddol o 1918 hyd 1939, pan y cafodd ei ddiarddel wedi cyhoeddi Dijalekticki antibarbarus (1939). Yn y gwaith hwn roedd yn gwawdio y rhai hynny oedd yn dilyn Stalin mewn modd uniongred. Izlet u Rusiju (Taith i Rwsia, 1926) oedd cofnod Krleža o’i ymweliad â’r Undeb Sofietaidd. Yn y 1950au, cyhoeddodd Krleža ddwy gyfrol hunangofiannol, sef Djetinjstvo u Agramu (1952) a Davni dani (1956).
Rhwng y ddau ryfel mawr, tyfodd dylanwad Krleža fel arweinydd yr awduron hynny oedd yn ysgrifennu ag ymwybyddiaeth gymdeithasol. Ysgrifenodd ei waith pwysicaf rhwng diwedd y 1920au a chanol y 1930au.
Roedd Krleža yn gefnogol i’r cais gan y Crotatiaid am fwy o hawliau cenedlaethol a diwylliannol a recordiodd ei safbwyntiau sgeptig ar ddatblygiadau democrataidd yn y Balcannau yn Razgovori s Miroslavom Krležom (1969). Ysgrifennai ag egni creadigol dirfawr ac amddiffynai ei safbwyntiau yn ffyrnig ac eofn.
“Os yw ffwlbri dynoliaeth yn waith Duw ai peidio, nid yw’n lleihau’n ymarferol,” ysgrifenodd yn On the Edge of Reason (1938). “Yn aml aiff canrifoedd heibio cyn i ynfydrwydd gael ei ddisodli gan ynfydrwydd ond, fel golau seren sydd wedi diffodd, ni fethodd ynfydrwydd erioed â chyrraedd pen ei daith. Mae cenhadaeth ynfydrwydd yn ôl pob golwg yn un gyffredin.”