schwob_logo

schwob

marcel
The World's Best Unknown Books
29 10 2014

Schwob yn llyfrgell dinas Amsterdam

Ar nos Fercher, Hydref y 29ain, 2014, am 8 yr hwyr, bydd tri awdur o bwys rhyngwladol yn rhannu eu syniadau am eu hoff glasuron modern anghofiedig o blith llenyddiaeth Ewrop: Arnon Grunberg o’r Iseldiroedd, Jens Christian Grøndahl o Ddenmarc a Christos Chryssopoulos o Roeg. Byddant yn cyflwyno i ni’r llyfrau a ddylai, yn eu barn nhw, gael eu hailddarganfod gan gyhoeddwyr yn genedlaethol a rhyngwladol. Cyflwynir y noson gan Margot Dijkgraaf.

Bydd Arnon Grunberg yn dadlau dros awdur ‘Troedigaeth yn Jaffa’, sef Marek Hlasko o wlad Pŵyl. Cyflwynir To Mennesker mødes (Dau berson yn cyfarfod) gan Jens Christian Grøndahl, sef nofel a gyhoeddwyd yn 1932 gan yr awdur o Ddenmarc, Knud Sønderby. Cafodd y nofel hon ddylanwad sylweddol ar waith Grøndahl.

Tynnu sylw at nofel gan y Roeges Melpo Axiote - Το σπίτι μου (Fy nhŷ, 1932) - y bydd Christos Chryssopoulos o Athen. Bydd yn dadlau pam y dylai Melpo Axiote, a gafodd fywyd anturus, gael ei darllen yn ehangach. Edrychwn ymlaen at weld cyfieithiad Saesneg cyntaf o waith Chryssopoulos yn cael ei gyhoeddi cyn hir gan wasg Seren.

Bydd y noson yn cael ei chyflwyno mewn Is-Almaeneg a Saesneg. Am docyn, dylid archebu trwy’r wefan www.spui25.nl