Cavafy yn ôl Richard Gwyn
Tri pheth a ddysgais ganddo
‘Tra’n crwydro o gwmpas deheudir Ewrop, yn dianc rhag y cywilydd torfol oedd yn nodweddu Prydain yn yr wythdegau, roedd cerddi C.P. Cavafy gen i’n gwmni. Byddai llyfrau eraill yn dod i fy meddiant ac yna’n cael eu disog ar hyd y ffordd, ond aros gyda mi, ar ryw ffurf neu gilydd, wnaeth Cavafy am y rhan helaeth o’r degawd hwnnw.’
‘Roeddwn wedi bod yn darllen Cavafy ers troi’n un ar bymtheg, ac unwaith y tyfodd yn rhan annatod o fy nheithiau doeddwn i ddim yn teimlo bod fy mag yn gyflawn hebddo. Cyfrol denau ydoedd, a ‘Ffuglen’ Borges a ‘Dinasoedd Anweledig’ Calvino’n gwmni iddi yn ystod y blynyddoedd cynnar hynny. Roedd gan y tri llyfr hwn dri pheth yn gyffredin: roeddent bob un ar raddfa fechan ac yn ddwys; roeddent bob un yn gwyrdroi dullweddau cyffredin; ac roeddent bob un wedi eu creu yn elfen arian byw. Un peth na wyddwn ar y pryd oedd y byddwn yn parhau i ddarllen Cavafy bedwar deg mlynedd yn ddiweddarch, gyda mwy o gywreinrwydd nag erioed.’
Darllenwch ysgrif Richard Gwyn ‘An Invisible Procession: How reading Cavafy changed my life’, a gyhoeddwyd gyntaf yn Poetry Review, 103:3 yn rhifyn Hydref 2013.