schwob_logo

schwob

marcel
The World's Best Unknown Books
06 03 2014

T. H. Parry-Williams

ei gyfraniad i lenyddiaeth Ewrop

Dyma oedd gan Angharad Price i’w ddweud wrth gyflwyno T. H. Parry-Williams i Finnegan’s List 2014:

‘Cyfraniad mawr T. H. Parry-Williams i lenyddiaeth Ewrop yw ei gerddi a’i ysgrifau, sy’n cyfleu i ni sut yr oedd llenyddiaeth leiafrifol yn ymdrin â moderniaeth yn ystod degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif. Ceir dros gant o ddarnau rhyddiaith yn ei gyfrol Casgliad o Ysgrifau, a gyfansoddwyd rhwng 1928 ac 1971, a hynny ar bynciau fel ‘pry genwair’, ‘tywod’, ‘boddi cath’ a ‘prynu caneri’. Mae’r ysgrifau’n dyst i’w allu dadansoddol, ei ddefnydd dwfn a manwl o iaith, ac yn fwy na dim, ei allu i roi arwyddocâd cosmig i brofiadau bob dydd.’

Casgliad o Ysgrifau T. H. Parry-Williams oedd dewis Owen Martell hefyd yn ysgrifennu yn yr Independent.

Aeth Angharad ymlaen i egluro pam y dewisodd Friederike Mayröcker a Mihangel Morgan:

‘Mae Friederike Mayröcker (g. 1924) yn un o awduron Awstriaidd mwyaf arwyddocaol yr hanner can mlynedd diwethaf, ac fe’i henwebwyd ar gyfer Gwobr Nobel Llenyddiaeth. O’i chartref yn Fienna, sy’n orlawn o lyfrau, mae wedi creu corff o farddoniaeth a rhyddiaith sydd yn arbennig o ran dwyster emosiynol ac ieithyddol. Defnyddir technegau montage a collage (sy’n adleisio gwaith Kurt Schwitters) i bylu’r ffin rhwng bywyd a llenyddiaeth. Mae ei ffordd o drin geiriau a chystrawen yn ddyledus i Hölderlin yn gymaint ag i farddoniaeth goncrid y Wiener Gruppe, grŵp o feirdd avant-garde yr oedd ganddi gysylltiad agos ag o gan ei bod yn gymar i’r bardd Ernst Jandl.’

‘Cyhoeddodd Mihangel Morgan dros ugain o gyfrolau arloesol sy’n procio’r meddwl, gan adfywio’r nofel Gymraeg a’r stori fer mewn cyfnod pan oeddynt ar goll mewn naturiolaeth. Mae Melog yn adrodd hanes Dr Jones, sy’n ddarlithydd prifysgol anfodlon a di-waith. Caiff ei fywyd ei drawsnewid un diwrnod pan wêl ddyn ifanc noethlymun ar ben adeilad uchel yn ystyried ei ladd ei hun. Yn chwaraeus a gwleidyddol ar yr un pryd, mae Melog yn archwilio gyda dychan yr argyfwng mewn cymdeithas Gymraeg ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif, gyda’i hiaith a’i diwylliant yn rhy agos at ddifancoll.’