Cyfweld y meirw: cyfieithu'r clasuron
Mae’r Gyfnewidfa yn trefnu digwyddiad yng Nghanolfan Gyfieithu Llenyddol Ffair Lyfrau Llundain eleni i roi sylw i glasuron modern.
Bydd Daniel Hahn yn cyfweld Patrick McGuinness ac Oliver Ready (awdur cyfieithiad newydd o ‘Trosedd a Chosb’ Dostoyevksy) ar ran eu hawduron, Mallarmé a Dostoyevsky am 3.30pm o’r gloch ar bnawn Mercher y 9fed o Fawrth 2014. Yn ymuno â nhw fe fydd John Siciliano o wasg Penguin yn yr UD ac Alexandra Koch, prif olygydd Schwob, o Amsterdam.
Mae’r Gyfnewidfa Lên yn un o bartneriaid consortiwm Canolfan Gyfieithu Llenyddol Ffair Lyfrau Llundain ac yn gyfrifol am gyd-drefnu’r rhaglen o weithgaredd yno bob blwyddyn. Croeso i chi ymweld â ni wrth ein bwrdd yn y Ganolfan Gyfieithu.