schwob_logo

schwob

marcel
The World's Best Unknown Books
17 01 2014

Cyflwyno Rhestr Finnegan 2014 yn Marseille

Angharad Price yn ymuno â phrif awduron Ewrop i greu Rhestr Finnegan 2014

Marseille-Provence yw un o brifddinasoedd Diwylliant Ewrop yn 2013. Bydd y porthladd Ffrengig sy’n agor ar Fôr y Canoldir yn croesawu Schwob/Rhestr Finnegan am yr eildro gyda sgwrs lenyddol yng nghwmni Etgar Keret (Israel), Christos Chryssopoulos (Groeg) a Vladimir Arsenijević (Serbia).

Cyflwynir ar yr un pryd Restr Finnegan 2014 ac ymhlith y deg awdur sy’n cael y fraint o argymell ar gyfer y rhestr hon yn 2014 y mae Angharad Price o Gymru. Dyma’r tro cyntaf i awdur o Gymru fod yn rhan o’r panel Finnegan. Nod Finnegan’s List, a gyhoeddir gan Y Gymdeithas Awduron Ewropeaidd, yw cyflwyno gweithiau llenyddol nad ydynt wedi eu cyfieithu’n eang neu sydd wedi eu hanghofio’n llwyr i gynulleidfa Ewropeaidd, a hynny drwy wahodd deg awdur adnabyddus i ddewis tair cyfrol.

Dewisiadau Angharad yw Casgliad o Ysgrifau T. H. Parry-Williams, Gesammelte Prosa 1949-2001 (Casgliad o Ryddiaith 1949-2001) gan Friederike Mayröcker a Melog gan Mihangel Morgan.

Marseille gosompolitaidd ar lanau Môr y Canoldir – môr sydd “yn fil o bethau ar yr un pryd”, i ddyfynu yr hanesydd Ffrengig Fernand Braudel – fydd yn croesawu tri awdur Rhestr Finnegan i sgwrsio ar yr 20fed o Hydref yn yr enwog Théâtre de la Criée. Byddant yn trafod eu dewisiadau ar gyfer Schwob/Rhestr Finnegan.

Bydd Etgar Keret yn rhannu ei angerdd am waith yr awdur Orly Castel-Bloom o Israel a’i chlasur Dolly City lle eir i ymrafael ag ofnau un o ardaloedd mwyaf terfysglyd y byd. I Castel-Bloom, “Oren aeddfed yw gwallgofrwydd, ac felly dylid ei lapio a’i anfon i Ewrop mewn cratiau gyda’r stamp Jaffa.”

Bydd y tri awdur hefyd yn trafod pwysigrwydd cyfieithu llenyddiaeth mewn byd cyffelyb oherwydd, gan ddyfynu Adam Thirlwell, “trwy gyfieithu yr ydym yn ymdopi â’r ffaith fod i bob iaith ei ffiniau rheoledig ei hun.”

Os hoffech wybod mwy am Orly Castel-Bloom, Menis Koumandareas neu Radoje Domanović, dewch i wrando am 4 y prynhawn ar yr 20fed o Hydref, 2013 yn Marseille.