schwob_logo

schwob

marcel
The World's Best Unknown Books
17 01 2014

Preswyliadau cyfieithwyr Schwob yng Nghymru

Pum cyfieithydd yn dod i Gymru

Wrth groesawu’r flwyddyn newydd, mae Cyfnewidfa Lên Cymru yn edrych ymlaen at gwmni pump o awduron a chyfieithwyr tramor yn Nhŷ Newydd: Y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol. Mae’r Gyfnewidfa Lên yn trefnu preswyliadau iddynt fel rhan o brosiect Schwob a ariannir gan yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ystod eu cyfnod preswyl rhwng Ionawr y 7fed a’r 21ain, 2014, fe fydd yr awduron a chyfieithwyr yn cael cyfle i drafod eu clasuron gydag ysgolheigion ac arbenigwyr, ymweld â lleoliadau o bwysigrwydd i’r gweithiau y maent yn eu cyfieithu, yn ogystal â chael cyfle i ddod i adnabod y byd llenyddol yng Nghymru yn well.

Bydd Emilia Ivancu, Jaume Subirana, a Yuvan Chandrasekar ill tri yn gweithio ar gyfieithu cerddi R. S. Thomas i’r Rwmaneg, i’r Gatalaneg a Thamil. Bydd Yuvan, sy’n fardd a chyfieithydd o Chennai, hefyd yn gweithio ar gyfieithiadau o waith Dylan Thomas ar gyfer eu cyhoeddi gan wasg Kalachuvadu. Bydd Marta Klonowska yn canolbwyntio ar gyfieithu Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard i’r Bwyleg, a’r Athro Wolfgang Schamoni yn cyfieithu gwaith Kate Roberts i’r Almaeneg.

Byddwn yn manteisio ar eu presenoldeb i gasglu syniadau am gyfrolau Schwob pellach o’u gwledydd hwy tra’n eu cyflwyno i fwy o syniadau am gyfrolau Schwob Cymreig.

Lansiwyd Schwob yn yr Iseldiroedd yn 2011 i hwyluso’r gwaith o hyrwyddo cyfieithu a chyhoeddi goreuon llenyddiaeth dramor yno. Yn 2013, derbyniodd y prosiect gefnogaeth ariannol fel rhan o Raglen Ddiwylliant yr UE er mwyn ehangu yn rhwydwaith ryngwladol. Mae Schwob bellach yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau llenyddiaeth mewn chwe gwlad, gan gynnwys Cymru drwy Gyfnewidfa Lên Cymru, i dynnu sylw at “glasuron modern eithriadol, sy’n anodd eu canfod, sy’n hogi’r awydd am fwy”.